Bwlch 2: Y Lleuad, Mawrth a'r Ddaear
Mae wyneb y Lleuad wedi'i greithio gan ardrawiadau meteorynnau drwy'r oesau. Mae yna hanner miliwn o graterau sy'n fwy na chilometr ar draws. Mae wyneb y Lleuad wedi'i orchuddio â chreigiau chwilfriw, llychlyd a chwalwyd gan yr ardrawiadau hyn.
Planed greigiog, goch yw Mawrth ac mae ei lliw yn ganlyniad i'r ocsid haearn (rhwd) yn y pridd. Mae rhan helaeth o'i hwyneb yn ddiffeithdir rhewllyd, wedi'i orchuddio â thwyni ac arnynt feini gwasgaredig. Fel y Lleuad, mae miloedd o graterau ardrawiadau yn creithio wyneb y blaned ond mae ei llosgfynyddoedd mawrion a'i chanionau enfawr yn unigryw, y rhai mwyaf i'w darganfod yng nghysawd yr Haul.
Y Ddaear yw'r unig blaned yng nghysawd yr Haul lle mae'r tymheredd a'r gwasgedd atmosfferig yn caniatáu i ddŵr fodoli ar yr wyneb. A hyd y gwyddom, dyma'r unig blaned sydd â bywyd arni. Mae dŵr a bywyd, yn ogystal ag ardrawiadau, gweithgaredd folcanig a phlatiau tectonig wedi llunio arwyneb y Ddaear, gan greu'r tirweddau sydd i'w gweld heddiw.