Bwlch 2: Y Lleuad, Mawrth a'r Ddaear

Mae wyneb y Lleuad wedi'i greithio gan ardrawiadau meteorynnau drwy'r oesau. Mae yna hanner miliwn o graterau sy'n fwy na chilometr ar draws. Mae wyneb y Lleuad wedi'i orchuddio â chreigiau chwilfriw, llychlyd a chwalwyd gan yr ardrawiadau hyn.

Planed greigiog, goch yw Mawrth ac mae ei lliw yn ganlyniad i'r ocsid haearn (rhwd) yn y pridd. Mae rhan helaeth o'i hwyneb yn ddiffeithdir rhewllyd, wedi'i orchuddio â thwyni ac arnynt feini gwasgaredig. Fel y Lleuad, mae miloedd o graterau ardrawiadau yn creithio wyneb y blaned ond mae ei llosgfynyddoedd mawrion a'i chanionau enfawr yn unigryw, y rhai mwyaf i'w darganfod yng nghysawd yr Haul.

Y Ddaear yw'r unig blaned yng nghysawd yr Haul lle mae'r tymheredd a'r gwasgedd atmosfferig yn caniatáu i ddŵr fodoli ar yr wyneb. A hyd y gwyddom, dyma'r unig blaned sydd â bywyd arni. Mae dŵr a bywyd, yn ogystal ag ardrawiadau, gweithgaredd folcanig a phlatiau tectonig wedi llunio arwyneb y Ddaear, gan greu'r tirweddau sydd i'w gweld heddiw.

Beth sydd yn Bwlch 2?

Tectit indocinit

1. Tectit indocinit

Weithiau mae trawiadau gwibfeini'n toddi darnau mawr o gramen y Ddaear ac yn gwasgaru defnynnau o wydr craig, a elwir yn dectitau.

Gwibfaen Crondrit

2. Gwibfaen Crondrit

Gwneir Crondritau o sfferau bychain (crondrwlau) a unodd at ei gilydd yn gynnar yn oes cysawd yr haul. Ffurfioff y ddaear o ddeunydd fel hyn.

Gwibfaen haearn nicel

3. Gwibfaen haearn nicel

Mae'r gwibfaen hwn gwympo yn Rwsia ar 12 Chwefror, 1947. Craidd asteroid yw hwn, sydd â chyfansoddiad tebyg i graidd y Ddaear.

Acondrit

4. Acondrit

Mae acondrit yn wibfaen caregog, sy’n debyg o ran ei gyfansoddiad i greigiau igneaidd o’r Ddaear. Daw’r enghraifft hon o’r wyneb asteroid 4 Vesta.

Basalt Olifin

5. Basalt Olifin

Dyma'r math o fasalt a geir ar y lleuad. Gwastadeddau o lifoedd lafa basalt yw'r ardaloedd tywyll sydd i'w gweld ar y lleuad.

Anthorthositau

6. Anthorthositau

Dyma creigiau sy'n gorchuddio ardaloedd golau wyneb y Lleuad.

Sampl 'Pridd' o'r Lleuad

7. Sampl 'Pridd' o'r Lleuad

Mae'r sampl hwn yn efelychiad swyddogol o Creicaen Mân o'r Lleuad. Defnyddiodd gwyddonwyr NASA samplau fel hyn i wneud arbrofion yn ymwneud ag arwyneb y Lleuad.

Sampl ‘Pridd’ o’r Blaned Mawrth

8. Sampl ‘Pridd’ o’r Blaned Mawrth

Mae’r sampl hwn yn efelychiad swyddogol o Creicaen Mawrth. Defnyddiodd gwyddonwyr NASA samplau fel hyn i wneud arbrofion ar ‘bridd’ o’r blaned Mawrth.

Concretiadau Hematit nodweddiadol o'r blaned Mawrth

9. Concretiadau Hematit nodweddiadol o’r blaned Mawrth

Daeth y crwydryn 'Opportunity' o hyd i hematit ar y blaned Mawrth ar ffurf sfferau bach fel y rhain. Mae’n bosib i’r sfferau ffurfio fel gwaddodion creigiau o dan y dŵr biliynau o flynyddoedd yn ôl. Mae’r concretiadau hyn yn enghreifftiau Daearol o’r ‘llus duon’ hyn o’r blaned Mawrth. Image: copyright NASA/JPL.

Calchfaen Ffosilifferaidd

10. Calchfaen Ffosilifferaidd

Y Ddaear yw’r unig blaned y gwyddom amdani yn y bydysawd sy’n cynnal bywyd. Organebau microsgopig yn secretu cregyn amddiffynnol o galsiwm carbonad sy’n ffurfio’r calchfaen. Pan mae'r anifeiliaid yn marw, mae’r cregyn yn aros, ac yn caledu i ffurfio calchfaen.