Bwlch 1: Beth yw Meteorynnau?
Mae'r Ddaear yn cael ei pheledu'n barhaus gan ddeunydd o'r gofod. Diolch byth, mae'r rhan fwyaf ohono'n cwympo ar ffurf gronynnau bychain sy'n llosgi'n ulw wrth iddynt deithio trwy'r atmosffer, ac rydym ni'n eu gweld ar ffurf meteorynnau neu 'sêr gwib'.
Mae meteorynnau yn greigiau prin iawn sy'n goroesi'r siwrnai trwy'r atmosffer ac yn glanio ar wyneb y Ddaear.
Mae rhai meteorynnau yn debyg i greigiau igneaidd sydd i'w cael ar y Ddaear. Mae rhai yn ddarnau o fetel, ac eraill yn wahanol i'r holl greigiau y gwyddom amdanynt ar y Ddaear. Mae'r rhan fwyaf o feteorynnau yn ddarnau o asteroidau ac maent o'r un oed â chysawd yr Haul, sef tua 4.5 biliwn o flynyddoedd oed. Maent yn cynnwys tystiolaeth bwysig sydd yn ein helpu ni i lunio damcaniaethau ynghylch tarddiad a hanes cysawd yr Haul.