Bwlch 1: Beth yw Meteorynnau?

Mae'r Ddaear yn cael ei pheledu'n barhaus gan ddeunydd o'r gofod. Diolch byth, mae'r rhan fwyaf ohono'n cwympo ar ffurf gronynnau bychain sy'n llosgi'n ulw wrth iddynt deithio trwy'r atmosffer, ac rydym ni'n eu gweld ar ffurf meteorynnau neu 'sêr gwib'.

Mae meteorynnau yn greigiau prin iawn sy'n goroesi'r siwrnai trwy'r atmosffer ac yn glanio ar wyneb y Ddaear.

Mae rhai meteorynnau yn debyg i greigiau igneaidd sydd i'w cael ar y Ddaear. Mae rhai yn ddarnau o fetel, ac eraill yn wahanol i'r holl greigiau y gwyddom amdanynt ar y Ddaear. Mae'r rhan fwyaf o feteorynnau yn ddarnau o asteroidau ac maent o'r un oed â chysawd yr Haul, sef tua 4.5 biliwn o flynyddoedd oed. Maent yn cynnwys tystiolaeth bwysig sydd yn ein helpu ni i lunio damcaniaethau ynghylch tarddiad a hanes cysawd yr Haul.

Beth sydd yn Bwlch 1?

Tectit indocinit

1. Tectit indocinit

Weithiau mae trawiadau gwibfeini'n toddi darnau mawr o gramen y Ddaear ac yn gwasgaru defnynnau o wydr craig, a elwir yn dectitau.

Gwibfaen Crondrit

2. Gwibfaen Crondrit

Gwneir Crondritau o sfferau bychain (crondrwlau) a unodd at ei gilydd yn gynnar yn oes cysawd yr haul. Ffurfioff y ddaear o ddeunydd fel hyn.

Gwibfaen haearn nicel

3. Gwibfaen haearn nicel

Mae'r gwibfaen hwn gwympo yn Rwsia ar 12 Chwefror, 1947. Craidd asteroid yw hwn, sydd â chyfansoddiad tebyg i graidd y Ddaear.

Moldafit

4. Moldafit

Dyma fath arall o dectit, ond mae'n edrych yn debyg i wydr gwyrdd.

Condrit carbonaidd

5. Condrit carbonaidd

Y gwibfaen hwn yw'r gwrthrych hynaf i'w ganfod ar wyneb y Ddaear. Mae'n 4.56 biliwn o flynyddoedd oed! Dyma'r gwibfaen sydd wedi cael ei astudio fwyaf erioed.

Octahedrit haearn yn dangos patrwm Widmanstatten

6. Octahedrit haearn yn dangos patrwm Widmanstatten

Tyfiant dau aloi o haearn a nicel sy’n creu strwythur prydferth y gwibfaen hwn. Ar ôl ei gaboli a’i ysgythru ag asid, daw ‘patrwm Widmanstatten’ o linellau croesymgroes i’r golwg.

Palasit

7. Palasit

Mae palasitau yn fath prin iawn o wibfaen. Credir eu bod wedi dod o'r ffin rhwng craidd a mantell asteroidau gwahaniaethol.

Acondrit

8. Acondrit

Mae acondrit yn wibfaen caregog, sy'n debyg o ran ei gyfansoddiad i greigiau igneaidd o'r Ddaear. Daw'r enghraifft hon o'r wyneb asteroid 4 Vesta.

Haearn Octahedrit o Meteor Crater, Arizona

9. Haearn Octahedrit o Meteor Crater, Arizona

'Meteor Crater' yn Arizona yw un o'r craterau trawiad mwyaf adnabyddus yn y byd. Darganfuwyd nifer o fân-ddarnau o dyma wibfaen o amgylch y crater.