Lleoliadau Ffilmio
Naws a Hanes
Mae Big Pit yn lofa ac amgueddfa - cartre'r Baddondai Pen Pwll enwog, peirianwaith diwydiannol trwm a rhwydwaith o dwneli tanddaearol.
Llogwch y lleoliad unigryw hwn ar gyfer fideos cerddoriaeth, sesiynau ffotograffiaeth neu ffilmio teledu.
Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.O Dan yr Wyneb
Mae'r twneli dwfn o dan yr amgueddfa yn rhan yn atyniad poblogaidd iawn erbyn heddiw - cyn hynny, fe'u defnyddiwyd gan lowyr wrth iddynt gloddio am lo.
Rydym ni'n croesawu ffilmio ar leoliad, a mae pob llogiad yn cefnogi'n gwaith wrth i ni ofalu am y darn arbennig hwn o'n hanes diwydiannol.
Hanes Byw
Mae ein Tywyswyr Glofaol yn arbenigwyr profiadol, sy'n llawn straeon sy'n olrhain ein hanes diwydiannol.
Gofynnwch i ni sut y gallwch wneud y gorau o'u profiad i ddod â naws ac arbenigedd i raglen ddogfen neu ddarn am hanes cymdeithasol.Cefnogwch ein gwaith
Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol.
Newyddion a'r Wasg
I weld beth sy'n digwydd yn ein hamgueddfa, neu i gysylltu â Swyddfa'r Wasg, ewch i'r
dudalen newyddion a'r cyfryngau