Lleoliadau Ffilmio

Naws a Hanes

Mae Big Pit yn lofa ac amgueddfa - cartre'r Baddondai Pen Pwll enwog, peirianwaith diwydiannol trwm a rhwydwaith o dwneli tanddaearol.

Llogwch y lleoliad unigryw hwn ar gyfer fideos cerddoriaeth, sesiynau ffotograffiaeth neu ffilmio teledu.

Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.
Orielau Glofaol

O Dan yr Wyneb

Mae'r twneli dwfn o dan yr amgueddfa yn rhan yn atyniad poblogaidd iawn erbyn heddiw - cyn hynny, fe'u defnyddiwyd gan lowyr wrth iddynt gloddio am lo.

Rydym ni'n croesawu ffilmio ar leoliad, a mae pob llogiad yn cefnogi'n gwaith wrth i ni ofalu am y darn arbennig hwn o'n hanes diwydiannol.

Cefnogwch Amgueddfa Cymru, Cefnogwch Ein Cymunedau

Eleni, wynebodd cymunedau Cymru heriau na brofwyd erioed o’r blaen. Gan ddefnyddio casgliadau cenedlaethol Cymru, rydym yn cynorthwyo cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn.
Bydd pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth. Gallwch chi ein helpu ni heddiw?

Rhowch yn awr!

Hanes Byw

Mae ein Tywyswyr Glofaol yn arbenigwyr profiadol, sy'n llawn straeon sy'n olrhain ein hanes diwydiannol.

Gofynnwch i ni sut y gallwch wneud y gorau o'u profiad i ddod â naws ac arbenigedd i raglen ddogfen neu ddarn am hanes cymdeithasol.
Big Pit Amguedfa Lofaol Cymru

Cefnogwch ein gwaith

Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol.

Llogwch ein lleoliad ffilmio er mwyn cefnogi'n gwaith elusennol - yn darparu digwyddiadau, arddangosfeydd a chyfleon i 150,000 o ymwelwyr, bob blwyddyn.

Newyddion a'r Wasg

I weld beth sy'n digwydd yn ein hamgueddfa, neu i gysylltu â Swyddfa'r Wasg, ewch i'r

dudalen newyddion a'r cyfryngau