Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Fel dilynwyr @DyddiadurKate, fe wyddoch nad oes rhyw lawer o drafod y rhyfel wedi bod yn y dyddiadur hyd yn hyn. Os gofiwch chi nôl i ganol Ionawr, fe gawsom gipolwg ar y broses recriwtio pan soniodd Kate am filwyr yn gorymdeithio drwy Sir Feirionnydd:

19 Ionawr 1915 – Ymddaith y milwyr trwy Station. Eu noson yn y Bala. Ymunodd 25 yng Nghorwen a 5 ym Mhenllyn.

Ers i fy nghydweithiwr, Joe Lewis, ysgrifennu blog am y cofnod uchod, mae erthygl bapur newydd arall wedi dod i’r fei sy’n taflu goleuni ar agwedd swyddogion rhai o gapeli’r ardal at amcanion yr orymdaith hon. Mewn rhifyn o Baner ac Amserau Cymru a gyhoeddwyd ar 30 Ionawr 1915, cawn adroddiad cynhwysfawr am drafodaethau Cyfarfod Misol Methodistiaid Dwyrain Meirionnydd. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn y Bala dros gyfnod o 3 diwrnod, rhwng 12 – 14 Ionawr 1915. Ar y diwrnod olaf, roedd rhieni Kate yn bresennol:

14 Ionawr 1915 – Ellis a mam yn y Bala trwy’r dydd. Cyfarfod misol.

Roedd gorymdaith y milwyr yn un o bwyntiau trafod y cyfarfod. Er nad yw’r erthygl yn manylu ar y drafodaeth, mae’n nodi’r canlynol:

Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn o berthynas i daith y milwyr trwy Feirion: (1) Yr ydym fel cyfarfod misol yn annog ein haelodau i dderbyn milwyr sydd i ymweld â rhai o’n trefi yr wythnos nesaf yn groesawus; ac i wneyd pobpeth yn eu gallu i hyrwyddo amcan eu hymdaith. (2) Yn mhellach, dymunwn adgoffa pawb o ddatganiad Arglwydd Kitchener, a’r diweddar Arglwydd Roberts, yn erbyn temptio y milwyr i yfed diodydd meddwol. (3) Credwn mai buddiol, er hyrwyddo amcan ymdaith y milwyr drwy y sir, fyddai cau y tafarndai yn gynnarach.

Tan yn gymharol ddiweddar, hawdd fyddai dehongli’r dyfyniad uchod fel prawf o gefnogaeth brwdfrydig y genedl at yr ymgyrch ryfel. Mae sawl un ohonom wedi ein trwytho yng ngwaith K. O. Morgan a ddywedodd yn ei gyfrol ddylanwadol Rebirth of a Nation: Wales 1880 – 1980 fod 'jingo fever' ar led yng Nghymru yn ystod y rhyfel, 'heights of hysteria rarely matched in other parts of the United Kingdom'.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae sawl hanesydd wedi herio’r farn hon, yn eu plith Robin Barlow. Mae ganddo erthygl ddiddorol yn y gyfrol A New History of Wales: Myths and Realities in Welsh History sy’n dadlau yn erbyn gor-gyffredinoli’r ymateb yma yng Nghymru – 'support was localised', meddai, 'not universal'. Gallwch ddarllen grynhoad o’r erthygl fan hyn.  

Wrth drafod y sefyllfa yng ngogledd Cymru, mae Barlow yn awgrymu nad oedd y ffigyrau recriwtio gystal yng nghadarnleoedd y Gymraeg – er enghraifft, ym Môn ac Arfon. Ond beth am y sefyllfa ym Meirionnydd?

Yn Ionawr 1915, bu dadlau yn y Cambrian News and Merionethshire Standard ynglyn â ffigyrau recriwtio’r sir. Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn y papur ar 22 Ionawr 1915, awgrymodd R. J. Lloyd Price fod Meirionnydd ar ei hôl hi o gymharu â Sir Drefaldwyn – 356 troedfilwr yn fyr o’i nod o 932. Mae’r llythyr yn cynddeiriogi un darllenydd sy’n ymateb i’r honiadau gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Meirionwr’. Gallwch ddarllen ei lythyr fan hyn. 'It seems to me', meddai Lloyd Price mewn llythyr arall, 'that the fact of its being found necessary to send a recruiting party through Merionethshire and Carnarvonshire in search of recruits… is the obvious answer to the assertions of Meirionwr.'

Beth bynnag fo’r union ffigyrau, roedd recriwtio yn amlwg yn bwnc llosg ym Meirionnydd yn ystod wythnosau cyntaf 1915. Tybed beth oedd barn Kate a'i theulu?

 

 

Elen Phillips

Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol
Gweld Proffil

Gadael sylw