Hafan y Blog

Wythnos Addysg Oedolion a’i gwaddol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a ledled Amgueddfa Cymru

Loveday Williams , 24 Ionawr 2024

Fis Medi diwethaf, wnaethon ni ddathlu Wythnos Addysg Oedolion, ochr yn ochr â darparwyr dysgu eraill ledled Cymru. 
Roedden ni’n llawn cyffro i gynnal gweithgareddau ym mhob un o’r saith amgueddfa yn nheulu Amgueddfa Cymru, gan adeiladu ar ein cynigion cyfredol a threialu sesiynau a gweithgareddau newydd.
Yn Sain Ffagan, datblygon ni raglen lawn o weithgareddau ar gyfer yr wythnos, gan gynnwys sesiynau blasu a gweithdai crefft, teithiau natur meddylgar, a chyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg a Saesneg.
Cafodd rhaglen Amgueddfa Cymru ei hyrwyddo trwy’r adran newydd Dysgu Oedolion a Chymunedau ar ein gwefan, gyda gweithgareddau hefyd yn cael eu hysbysebu ar dudalen Digwyddiadau pob safle. Cawson ni gyfle i hyrwyddo ein rhaglen trwy lwyfan Wythnos Addysg Oedoliona gefnogir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a chynhalion ni ymgyrch gynhwysfawr ar y cyfryngau cymdeithasol cyn ac yn ystod yr wythnos, ar X (Twitter), Instagram a Facebook. 
Yn rhan o’r gwaith hwn, aethon ni ati hefyd i hyrwyddo ein cyfres o diwtorialau a sesiynau blasu crefft rhithwir a’r adnoddau dysgwyr hunandywys rydyn ni’n eu cynnig. 
Buon ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Dysgu Cymraeg Caerdydd, Menter Caerdydd, Addysg Oedolion Cymru a Creative Lives, i gyfoethogi’r rhaglen a sicrhau ei bod wedi’i theilwra i anghenion y dysgwyr roedden ni’n gobeithio eu denu.
Yn ystod yr wythnos, gwelson ni 160 o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu yn Sain Ffagan, a chyfanswm o 331 o bobl ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru. Rydyn ni’n falch iawn o ddweud mai dyma oedd yr Wythnos Addysg Oedolion fwyaf erioed i ni yn Amgueddfa Cymru. Gallwch weld rhai o’r uchafbwyntiau yma: https://youtu.be/lgKtmLHr1_Q 
Roedden ni’n awyddus i gasglu adborth gan y dysgwyr i’n helpu ni i ddatblygu a gwella ein darpariaeth addysg i oedolion ledled y sefydliad. 

Dyma sampl o’r adborth a gawson ni:

“Amgylchedd gwych, cadarnhaol, creadigol.” 
“Mae dysgu sgìl newydd yn hwyl ac yn rhoi boddhad.”  
“Profiad cymdeithasol a therapiwtig dros ben.”  
“Roeddwn i wir wedi mwynhau’r gweithdy. Profiad hwyliog a chadarnhaol iawn. Roedd yr hwyluswyr yn wirioneddol gyfeillgar, ac roedd y gweithdy yn therapiwtig a chymdeithasol.”  
“Wedi mwynhau’n fawr – cyfle gwych i ddysgu sgìl newydd. Athro gwych. Rwy’n teimlo wedi ymlacio’n llwyr ‘nawr.” 
“Taith gerdded ddifyr a diddorol iawn – gwelais i bethau nad oeddwn i wedi sylwi arnynt o’r blaen.” 
“Yn agor drws i fyd hudol.”  
“Roeddwn i wir wedi mwynhau’r daith natur feddylgar yn Sain Ffagan. Dysgais i lawer, a byddwn i’n ei hargymell! Roedd yn wych cael rhywun mor wybodus yn arwain y sesiwn.” 
“Amgylchedd cyfeillgar iawn; felly os ydych chi am roi cynnig ar rywbeth newydd, ewch amdani!” (gwehyddu bwydwyr adar helyg) 
“Wedi fy ngrymuso! Ffordd wych o ddysgu sgìl newydd.” 
“Llawer o hwyl! Ewch amdani, byddwch chi’n mwynhau dysgu sgìl newydd!”  
“Dw i’n meddwl bod digwyddiadau yn y Gymraeg yn dda iawn.”  
“Rydw i bob amser wedi eisiau gwneud torch hydref, a rhoddodd y cwrs yr hyder i mi. Roedd yn gwrs ysbrydoledig.” 
"Roedd yr hyfforddiant yn rhagorol. Roedd yna help pan oedd angen, ond rhoddwyd digon o le ac amser i chi roi cynnig arni eich hun.”  
“Wedi gwir fwynhau tynnu lluniau eto ar ôl 20 mlynedd. Rhaid i mi ailgydio ynddi nawr!” 
“Roeddwn i wedi mwynhau’r sesiwn sgetsio yn Sain Ffagan yn fawr iawn, yn ogystal â natur galonogol y grŵp.”  
“Sesiwn ysgogol, gefnogol a chalonogol dan arweiniad rhagorol Marion a Gareth. Diolch i Loveday am drefnu mor wych.” (Gweithdy sgetsio yn Sain Ffagan gyda Creative Lives).  
“Mae’n teimlo mor wych rhoi cynnig ar rywbeth newydd a gweld y canlyniadau mor gyflym.” (Sesiwn flas ar enamlo).  

Rhaglenni gwaddol: 

Diolch i’r cyfleoedd a gawson ni i dreialu gweithgareddau yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, rydyn ni bellach wedi lansio tair rhaglen Addysg Oedolion reolaidd newydd yn Sain Ffagan ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:
Ein rhaglen Teithiau Disgrifiad Sain fisol (a rennir rhwng y ddwy amgueddfa bob yn ail fis, ac a fydd yn cael ei lansio yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion cyn bo hir, gyda’r bwriad o’i hymestyn i safleoedd eraill yn ôl y capasiti). 
Ein Grŵp Sgetsio misol yn Sain Ffagan, mewn partneriaeth â Creative Lives (ac yn adeiladu ar lwyddiant Grŵp Arlunio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd). Rydyn ni wedi cynnal tair sesiwn hyd yma. Denodd y sesiwn gyntaf 6 unigolyn, yr ail 8 unigolyn, a’r drydedd 24! Bu’r adborth yn gadarnhaol ac mae’r neges yn cael ei lledaenu i bobman. Os hoffech ymuno â ni fis nesaf, mae croeso i chi wneud. Mae’r holl wybodaeth ar gael yn y ddolen uchod. 
Sesiynau Bore i Ddysgwyr Cymraeg tymhorol newydd ar y cyd â Dysgu Cymraeg Caerdydd a Menter Caerdydd. Y tymor diwethaf, bu i ni groesawu 35 o ddysgwyr Cymraeg i’r Amgueddfa i gymryd rhan mewn sesiwn ar draddodiadau’r Nadolig yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu grŵp o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar 25 Ionawr ar gyfer Dydd Santes Dwynwen, lle byddwn ni’n archwilio’r casgliad o Lwyau Caru, ac yna’n cynnal y Bore i Ddysgwyr Cymraeg nesaf. 
Mae’r chwe addewid sy’n rhan o’n strategaeth ddeng mlynedd Amgueddfa 2030 wedi’u hymgorffori yn ein rhaglen addysg oedolion drwyddi draw, ac yn benodol yr addewid i ysbrydoli creadigrwydd a dysgu am oes
Edrychwn ni ymlaen at barhau i dyfu ein darpariaeth addysg oedolion, a gobeithiwn eich croesawu i un o’n hamgueddfeydd yn 2024 i gymryd rhan mewn gweithgaredd neu i fwynhau defnyddio un o’n hadnoddau hunandywys i ddysgwyr. 

Loveday Williams

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.