Meddyginiaeth y Wlanen Goch

Wrth i’r dyddiau fyrhau ac oerfel y gaeaf gydio, rydyn ni’n estyn am ein siwmperi gwlân, sgarffiau a blancedi i gadw’n gynnes. Ond oeddech chi’n gwybod bod yna adeg pan gredir y gallai darn syml o wlanen goch wneud llawer mwy na’n cadw rhag yr oerfel? Credir y gallai helpu i wella annwyd hefyd!

Ymhell cyn dyddiau meddyginiaethau modern ar gyfer annwyd, byddai teuluoedd yn troi at ddarn syml o ddefnydd coch, gan gredu bod ganddo briodweddau iachaol rhyfeddol. Roedd yr arfer yn hynod o syml. Pan fyddai rhywun yn dal annwyd neu’n dioddef o ddolur gwddf, byddai darn o wlanen goch yn cael ei lapio o amgylch ei wddf, weithiau ar ôl ei gynhesu ymlaen llaw, ac yn aml byddai’n cael ei adael yn ei le dros nos.

Ar gyfer anhwylderau’r frest, gellid gwisgo’r wlanen o dan ddillad, yn agos at y croen, tra byddai rhai pobl yn gwisgo gwlanen goch drwy gydol misoedd y gaeaf yn y gobaith o atal salwch yn gyfan gwbl.

Roedd gwlanen goch hefyd yn gysylltiedig â meddyginiaethau ar gyfer cryd cymalau, poenau yn y cyhyrau ac anhwylderau eraill.

Ond pam coch? Byddech chi’n meddwl y byddai unrhyw ddarn cynnes o wlân yn gwneud y tro.

Mae’r ateb yn gymysgedd hynod ddiddorol o feddygaeth ymarferol, llên gwerin ac ofergoeliaeth.

Drwy gydol hanes, mae’r lliw coch wedi bod yn gysylltiedig â chynhesrwydd, gwaed, cryfder, bywiogrwydd ac amddiffyniad. Mewn meddygaeth werin draddodiadol, credir weithiau fod gan liwiau bwerau arbennig a allai ddylanwadu ar salwch neu yrru grymoedd niweidiol ymaith. Ystyrid bod y lliw coch yn arbennig o bwerus.

Mewn meddygaeth ganoloesol, defnyddid brethyn coch a dodrefn coch weithiau wrth drin clefydau fel y frech wen. Credir y gallai amgylchynu claf â’r lliw coch ddylanwadu ar hynt y salwch.

Dros amser, daeth syniadau o’r fath yn rhan o feddyginiaethau cartref bob dydd, gyda darnau o edau coch, rhubanau a brethyn yn cael eu defnyddio i amddiffyn rhag amrywiaeth o anhwylderau. Felly, roedd meddyginiaeth y wlanen goch yn ymwneud â llawer mwy na chadw’n gynnes. I rai, roedd yn ffordd o’u lapio eu hunain mewn amddiffyniad rhag salwch.

Wrth gwrs, roedd rheswm mwy ymarferol hefyd pam y daeth gwlanen yn ddewis mor boblogaidd. Mae gwlân yn ffibr naturiol rhyfeddol. Gall helpu i reoli tymheredd y corff drwy ddarparu inswleiddiad rhag yr oerfel, ac mae’n tynnu lleithder oddi wrth y croen i helpu i atal rhywun rhag oeri oherwydd chwysu yn ystod twymyn. O’i wehyddu’n wlanen, roedd yn darparu defnydd cyfforddus ac ymarferol ar gyfer dillad, dillad gwely a gorchuddion.

Yng Nghymru, mae gan wlanen hanes arbennig o gyfoethog. Am ganrifoedd, bu melinau gwlân Cymru yn cynhyrchu gwlanen ar gyfer dillad a defnydd bob dydd, gan gyflenwi cymunedau lleol yn ogystal â marchnadoedd ymhellach i ffwrdd. Roedd gwlanen goch ymhlith y defnyddiau a gynhyrchid ac a werthid.

Heddiw, rydyn ni’n gwybod nad oes gan y lliw coch unrhyw allu arbennig i wella annwyd nac atal heintiau. Feirysau sy’n achosi annwyd, ac ni all lapio ein hunain mewn gwlân wneud iddyn nhw ddiflannu. Serch hynny, gall sgarff wlân gynnes yn sicr gynnig cysur ar ddiwrnod oer o aeaf.

Mae stori meddyginiaeth y wlanen goch yn cynnig cipolwg hyfryd ar fywydau cenedlaethau’r gorffennol. Mae’n ein hatgoffa o gyfnod pan oedd meddyginiaethau cartref yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall, a phan allai cynhesrwydd darn syml o wlân gynnig cysur corfforol a thawelwch meddwl. I’r bobl a gredai yn ei briodweddau iachaol, roedd gwlanen goch yn cynrychioli rhywbeth llawer mwy na darn o ddefnydd. Roedd yn symbol o ofal, amddiffyniad a gobaith.

Ac er nad ydyn ni bellach yn credu y gall gwlân coch wella annwyd cyffredin, mae cynhesrwydd cysurus gwlân yr un mor groesawgar heddiw ag yr oedd ganrifoedd yn ôl.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.