Agoriad Swyddogol Tŷ Crwn Ian Daniel, 27 Gorffennaf 2010 Mae'r gwaith bron ar ben a'r dathlu ar fin dechrau! Fel y gallwch weld mae'r to wedi ei gwblhau ac rydym wedi arbrofi trwy greu twll bach ar gyfer y mwg. Gobeithio y bydd yr arbrawf yn llwyddiannus - amser a ddengys! Rwyf angen gwneud rhywfaint o wyngalchu ar y waliau mewnol ac yna fe fydd wedi ei gwblhau. Byddwn yn dathlu trwy gynnal agoriad swyddogol ar ddydd Sadwrn os ydych o gwmpas dewch draw am 3 o'r gloch i ymuno gyda ni yn y 'Pentref Celtaidd'. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u diddordeb dros y misoedd diwethaf ac yn arbennig i'r gwirfoddolwyr Dylan Hammond a Lauren Parfitt. Ian Daniel Swyddog Addysg, Dehongli a Cyfranogiad Cysylltwch â Ian Daniel sylw - (1) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Lauren 28 Gorffennaf 2010, 08:45 It looks BRILLIANT cant wait to come and see it at the weekend :)