Hafan y Blog

Yn y Swydd

Chris Owen, 27 Hydref 2010

Ychydig dros bythefnos yn ôl, fe ddechreuais yn fy swydd yma yn Amgueddfa Cymru. Mae wedi bod yn gychwyn digon prysur wrth i mi fynd ati i gwrdd â staff ym mhob un o'n safleoedd ni, yn ogystal â mynychu dathliadau pen-blwydd Amgueddfa'r Glannau yn bump oed. Mae pawb wedi bod yn arbennig o groesawgar, ac rydw i'n falch iawn o gael y cyfle i arwain sefydliad sydd mor uchel ei barch.

Rydw i wedi ymuno ag Amgueddfa Cymru ar adeg gyffrous iawn. Mae datblygiadau ar droed i greu Amgueddfa Hanes yn Sain Ffagan ac i droi llawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru - disgwylir y bydd y gwaith yma wedi'i gwblhau ym mis Gorffennaf 2011. Dros y misoedd nesaf, byddaf i'n cefnogi cynnydd y projectau yma yn ogystal ag yn cadarnhau'r neges bod Amgueddfa Cymru yn adnodd modern ar gyfer Cymru. Swyddogaeth yr Amgueddfeydd Cenedlaethol yw gwasanaethu pobl Cymru, ac un ffordd o lwyddo i roi'r weledigaeth yma ar waith yw ffurfio partneriaethau diwylliannol. O ystyried sefyllfa ariannol y wlad ar hyn o bryd, mae'r dull yma yn bwysicach fyth.

Wythnos diwethaf, lansiwyd ein dogfen

yn y Senedd. Mae dysgu wrth wraidd popeth a wna Amgueddfa Cymru ac mae'r papur yma'n dathlu'r gwaith yma, a'n gweledigaeth ni o fod yn amgueddfa ddysg o safon ryngwladol. Mae'r llyfryn yn dangos sut mae ein gwaith o ddehongli a chyfathrebu ein casgliadau i bobl Cymru, a'i hymwelwyr, yr un mor bwysig â bod yn geidwaid i gasgliadau'r genedl.

Mae Amgueddfa Cymru yn unigryw ymysg amgueddfeydd cenedlaethol yr Ynysoedd Prydeinig oherwydd ei amrywiaeth o safleoedd a hefyd eu cysylltiad clos gyda'r cymunedau a'r rhanbarthau y maent yn rhan ohonynt. All yr un amgueddfa genedlaethol yn Llundain ddod yn agos at gyflawni hyn.

Mae'r casgliadau hefyd yn anhygoel o amrywiol yn eu hystod eang o ddisgyblaethau - o hanes cymdeithasol i gelf, o wyddoniaeth natur i hanes diwydiannol. Mae hyn yn galluogi'r amgueddfa i apelio i gynulleidfa eang, gyda chydbwysedd rhwng y rhywiau - sydd eto'n wahanol i rai amgueddfeydd yn Llundain!

Mae'r cyfle i weithio yn un o'r prif amgueddfeydd Celtaidd yn apelio'n fawr imi. A minnau wedi fy ngeni ym Melffast, ac wedi astudio Archaeoleg a Hanes Iwerddon yn yr Alban, rwyf yn falch o gael y cyfle nawr i ddysgu mwy about am ddiwylliant a hanes Cymru.

Chris Owen

Rheolwr Datblygu Digidol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.