Hafan y Blog

Cân Hosanau

Sara Maidment, 31 Hydref 2014

1. Mwg Taffywood

Mae mygiau Taffywood cwmni I Loves the ‘Diff bob tro’n codi gwen gyda’u chware geiriau. Anrheg perffaith i drigolion Caerdydd ac atgof doniol i gyn-drigolion.

2. Llestri cegin Cymreig

Bara Brith, Pice ar y Maen, Cawl a Bara Lawr – mae’r casgliad hwn o offer cartref Victoria Eggs yn tynnu dŵr i’r dannedd. Printiwyd ac addurnwyd y lliain a’r ffedog â llaw ar gotwm organig 100%, ac mae’r mwg o tsieni asgwrn. Anrhegion perffaith i Gymry llwglyd.

3. Set o 3 mygiau

Te, coffi, sicoled – cymaint o ddewis? Mae’r mygiau priddwaith yma’n berffaith ar gyfer paned boeth. Os yw hi’n amhosibl dewis ffefryn, prynwch y tri. Cynhyrchwyd yn arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru.

4. Mwclis adar a gloÿnnod byw

Rydyn ni’n dwlu ar gadwyni prydferth Ladybird Likes. Daw’r darluniau o hen lyfrau natur Ffrengig cyn eu gosod ar bren a’u torri â laser. Cwmni bach o Lundain yw Ladybird Likes a sefydlwyd gan Zoe Jade, ac mae ei chariad at grefftau i’w gweld yn ei chadwyni a’i thlysau cain a thrawiadol.

5. Pecyn

Dangoswch eich ochr greadigol trwy addurno eich ysgrepan eich hun. Mae’r bag yn dod gyda phinnau ffelt i chi liwio a dylunio eich bag unigryw eich hun. Mae cynnyrch Seedling yn newydd i’r DU a’u pecynnau yn llawn syniadau i ysbrydoli a thanio dychymyg plant.

6. Pos yr wyddor Gymraeg

Jig-so wyddor Gymraeg sy’n dod a hwyl i ddysgu darllen. Mae’r llythrennau lliwgar deniadol wedi’u gwneud o bren rwber cynaliadwy ac ar gael gyda dreigiau, deinosoriaid neu grocodeilod.

7. Scrabble yn Gymraeg

 

Mae gêm eiriau fwyaf poblogaidd y byd bellach ar gael yn Gymraeg. Yn cynnwys dwy fersiwn o’r gêm i blant – gyda rheolau haws i’r plant iau a mwy o sialens i’r plant hÅ·n. Gwelwch ragor o gemau iaith Gymraeg i blant ar ein siop ar-lein.

8. Matiau diod a bwrdd Sain Ffagan

Bydd atgofion am Sain Ffagan yn llifo’n ôl wrth ddefnyddio’r matiau diod melamin lliwgar yma. Comisiynwyd yr artist lleol Wayne Bedgood i ddylunio’r gyfres, ac mae’n rhyfeddol faint o adeiladau mae wedi llwyddo i’w cynnwys. Yw eich ffefryn yma? Cynhyrchwyd yn arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru.

9. Calendr 2015

Calendr 2015 Amgueddfa Cymru yn cynnwys deuddeg delwedd o fynyddoedd mawreddog Cymru. Yn eu plith mae gweithiau gan Graham Sutherland, Peter Pendergrast, John Piper a Syr Kyffin Williams. Cynhyrchwyd yn arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru.

10. Argraffu yn ôl y Galw

Rydyn ni wrth ein bodd â’r paentiad gan Pissarro o Pont Neuf dan eira. Gallwch chi hefyd brynu print o’r gwaith prydferth hwn, neu ddewis o 250 gwaith arall drwy ein gwasanaeth Argraffu yn ôl y Galw. O gestyll i gopaon, ac o’r môr i Manet, mae gweithiau at ddant pawb yn y casgliad.

Sara Maidment

Cynorthwy-ydd Siop Ar-lein
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.