New Camera!

16 Mai 2009

There is no sign of second clutch, although the birds continue to spend much of their time around the nest on the east clock face.  The birds are still showing some pair bonding behaviour, spending time together and today putting on an aerial display.    Despite showing this behaviour the birds have not been seen mating.  The longer we wait, the less chance of success.

At last we have some good news to bring you!  Our fantastic new camera is up and running!  It even has its very own windscreen wiper-what will they think of next!  We have much improved views of the peregrines and now have a full screen image to show visitors.  Unfortunately, the new camera image is not yet available to internet viewers (but we're working on it!), so why not come down to the museum to check it out for yourself?!  See you there... 

Seiniau'r Neanderthaliaid

Elizabeth Walker, 14 Mai 2009

Adluniad ar ffurf paentiad o un o'r trigolion Neanderthalaidd cynnar.

Adluniad ar ffurf paentiad o un o'r trigolion Neanderthalaidd cynnar.

Perfformiad byw cyntaf <em>Neanderthal</em>

Perfformiad byw cyntaf Neanderthal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chwefror 2009

Darganfuwyd olion Neanderthalaidd sy'n dyddio'n ôl 230,000 o flynyddoedd yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych. Mae'r dannedd hyn a'r offer cerrig sy'n gysylltiedig wedi ysbrydoli'r cyfansoddwr Simon Thorne i greu'r seinwedd Neanderthal i'w chwarae yn yr oriel yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Er nad oedd gan y Neanderthaliaid unrhyw ddyfodol o ran esblygiad, rhyw 600,000 o flynyddoedd yn ôl roeddynt yn rhannu hynafiaid cyffredin gyda phobl fodern fel ni. Mae'r un strwythur i'w clust fewnol a'u llais ag sydd i'n rhai ni. Felly roedd gan y Neanderthaliaid y gallu corfforol i greu a chlywed seiniau. Serch hynny mae rhai o'r farn fod yr ymennydd Neanderthalaidd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol iawn i'n rhai ni. Mae'n bosibl nad oedd y cysylltiadau rhwng gwahanol ardaloedd yr ymennydd mor llithrig ag y maent yn ein hymenyddiau ni. Mae hefyd yn bosibl na allent ffurfio iaith fel modd cyfathrebu.

Mae'n bosibl bod gan y Neanderthaliaid allu mwy na ni i gyfathrebu a mynegi eu hunain drwy gyfrwng cân. Seilir seinwedd Simon ar y llais ac ar seiniau naturiol a recordiwyd yn ystod ymweliad ag Ogof Pontnewydd. Mae'r rhain yn cynnwys diferiadau o nenfwd yr ogof a'r afon sy'n llifo yng ngwaelod y dyffryn. Byddai seiniau cyfarwydd i Neanderthaliaid yn cynnwys rhuo a chyfathrebu anifeiliaid a chân adar. Byddai Neanderthaliaid hefyd wedi cynhyrchu seiniau. Byddai'r rhain yn cynnwys sŵn naddu offer cerrig. Wrth daro nodwl fflint bydd un heb nam arno'n gwneud sŵn clir a bydd y tarwr yn gwybod bod y fflint yn addas i gynhyrchu'r naddion sydd eu hangen i greu casgliad o offer cerrig. Gallai Neanderthaliaid ddefnyddio eu lleisiau ac efallai iddynt ganu eu ffordd drwy'r tir a defnyddio sain i gyfathrebu â'i gilydd wrth hela.

Dychymyg pur yw Neanderthal. Ond mae'n seiliedig ar wyddoniaeth ac mewn ffyrdd newydd, cyffrous mae'n fodd rhoi llais i arddangosfa fud.

Gan: Elizabeth Walker, Curadur Archeoleg Paleolithig a Mesolithig

Seinwedd Neanderthal

Seinwedd Neanderthal

Lawrlwytho
  • [1mb, MP3]

Seinwedd Neanderthal

Lawrlwytho
  • [64kb, MP3]

Urdd.org. Mary Lloyd Jones

Sian Lile-Pastore, 12 Mai 2009

Above is a photograph of Mary Lloyd Jones in front of a piece of work she created with pupils from Aberystwyth and Newcastle Emlyn in response to the poem 'Triongl' or Triangle written by pupils from Meirionnydd with the poet Ifor ap Glyn. The final part of the project happens this weekend when pupils from Cardiff will compose music in St Fagans and thus completing the triangle!!

Mary Lloyd Jones is a fascinating artist based in Aberystwyth. Her works are beautiful studies of landscape, history, storytelling and memory and some more images of her work can be seen on her website

Urdd.org

Sian Lile-Pastore, 11 Mai 2009

Dyma llun o'r lawns wythnos diwetha o'r arddangosfa Urdd.org. Yn y llun mae Nia Williams, rheolwr dysgu Sain Ffagan, yr artist Mary Lloyd Jones, y darlledwr Hywel Gwynfryn, a dau guradur o Sain Ffagan: Elen Phillips ac Owain Rhys. Mae'r arddangosfa ymlaen yn Oriel 1 yn Sain Ffagan:Amgueddfa Werin Cymru tan 12 Gorffennaf

A dyma llun arall (efo fi ar y dde!).

Fuoch chi erioed yn aelod o'r Urdd?

Sian Lile-Pastore, 11 Mai 2009

Yn yr arddangosfa Urdd.org mae na lle i chi hel atogofion o'r Urdd. Dewch draw i Oriel 1 i rannu eich profiadau am Llangrannog neu Glan-Llyn, neu allech chi ysgrifennu sylwadau ar diwedd y blog.

Dyma lluniau o'r wal hyd at hyn