Digwyddiad:ARchwiliwr Amgueddfa: Canllaw rhyngweithiol i’r orielau
Profwch yr Amgueddfa trwy ledrith Realiti Estynedig (AR)! Casglwch uned o'r ddesg groeso i ddechrau arni.
Dilynwch Lwna fydd yn eich tywys o gwmpas pob antur:
Dan y Môr a'i Donnau
Plymiwch o dan y tonnau i weld ein casgliad o greaduriaid y môr yn dod yn fyw yn oriel y môr. Chwiliwch am gregyn bylchog sy'n cynnwys cyfrinach, darganfyddwch ryfeddodau'r dyfroedd a chadwch lygad allan am y siarc!
Deinosoriaid a Chreaduriaid Cynhanesyddol
Dewch i gael cip o'r newydd ar ein deinosoriaid! Chwiliwch am wyau rhithwir y deinosoriaid yn yr oriel a gwylio creaduriaid cynhanesyddol yn dod yn fyw ar dir a môr y cyfnod Jwrasig!
Cwrdd â'n Mamoth
Dewch i weld ein sgerbwd mamoth anferth 'yn y cnawd' a darganfod beth mae ei esgyrn yn ei ddweud wrthom am ei fywyd a'i farwolaeth.
Pris: £7 yr awr.
Amser a awgrymir ar gyfer pob antur: 1 hour
- Mae’r dyfeisiau AR yn ddwyieithog
- Yn addas i blant 2 oed a hŷn
- Gellir llogi pob dyfais am un awr
- Gellir llogi pob dyfais ar gyfer unigolyn neu ei rhannu ymhlith grŵp teuluol
- Ewch i’r Ddesg Groeso i gasglu’ch dyfais a dechrau’r profiad
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 4 Medi 2026 | Sold Out | |
| 5 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
| 6 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
| 8 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
| 9 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
| 10 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
| 11 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
| 12 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
| 13 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
| 15 Medi 2026 | 10.00 10.30 11.00 11.30 12.00 12.30 13.00 13.30 14.00 14.30 15.00 15.30 16.00 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd