Digwyddiadau

Arddangosfa: David Hurn: Llun am Lun

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
23 Hydref 2021 – 29 Awst 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd Rhybudd am gynnwys anaddas i blant
Merch ifanc yn llawn llawenydd ar ôl cael ei gwasanaeth Bedydd Esgob

Merch ifanc yn llawn llawenydd ar ôl cael ei gwasanaeth Bedydd Esgob. Llundain, Lloegr
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Rhybudd am y cynnwys i rieni ac ymwelwyr: Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys delweddau o natur rywiol a lluniau a all beri gofid. 

Mwy o amser yn yr addangosfa!

Dewch i fwynhau arddangosfa David Hurn: Llun am Lun nes 9pm ar 4 Awst fel rhan o'n cynllun oriau ychwanegol, Mwy o Amser 

Bydd yr arddangosfa ffotograffiaeth hon yn cyflwyno rhagor o uchafbwyntiau o Gasgliad David Hurn, a lluniau a gyfnewidiodd â'i gydweithwyr yng nghwmni Magnum yn bennaf.

Trwy gydol ei yrfa fel ffotograffydd dogfennol ac aelod o Magnum Photos, mae Hurn wedi bod yn gasglwr ffotograffiaeth brwd. Yn ddiddorol, mae’n casglu ffotograffau trwy eu ffeirio.

Cafodd yr arddangosfa ei churadu gan Martin Parr yn 2017 i nodi pen-blwydd 70 Magnum Photos ac i ddathlu'r gymuned o ffotograffwyr y bu David Hurn yn rhan ohoni am 56 o flynyddoedd. Cafodd ei harddangos am y tro cyntaf yn Photo London ym mis Mai 2017 yna yn Sefydliad Martin Parr ym mis Mehefin 2018. Ers hynny mae'r gwaith wedi dychwelyd adref i Gaerdydd i gwblhau Casgliad David Hurn yn Amgueddfa Cymru.

"Mae David Hurn wedi llunio cysyniad sydd mor arbennig o syml, dwi'n synnu nad oes rhagor o bobl yn ei wneud. Mae wedi adeiladu casgliad o ffotograffau trwy gyfnewid ei luniau ef am luniau gan ffotograffwyr eraill – llun am lun. Fel y gwelwch chi yn yr arddangosfa hon, mae David wedi casglu detholiad anhygoel o luniau. Mae rhai yn eiconig ac yn gyfarwydd ac eraill heb eu gweld o'r blaen, yn cuddio yn nyfnderoedd archif ar-lein Magnum. Yn aml iawn wrth guradu, gwelwyd mai delweddau mwyaf adnabyddus David oedd dewis luniau ei gyfoedion, felly trefnwyd yr arddangosfa i ddangos ffotograff David yng nghanol y lluniau a gafodd yn gyfnewid ganddynt. Martin Parr

Dymuna Amgueddfa Cymru ddiolch i Magnum Photos a Martin Parr am eu cefnogaeth gyda'r arddangosfa.

Archebwch tocyn am ddim ymlaen llaw

Digwyddiadau