Digwyddiadau

Digwyddiad: Beachwatch 2022

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
18 Medi 2022, 1pm - 5pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Archebwch docyn o flaen llaw

Beachwatch 2022

Dewch i draeth Aberogwr i ddysgu am fywyd gwyllt, creigiau a ffosilau’r ardal a helpu i lanhau’r traeth gyda’r Gymdeithas Cadwraeth Forol.

1pm – 2.30pm:  Glanhau’r traeth.

2.30pm – 3.30pm: Cinio

3.30pm – 5pm: Gweithgareddau addysgiadol am ddim.

Archebwch docyn nawr

  • Nodwch: Rhaid archebu ar gyfer gweithgareddau addysgiadol. Gadewch rif ffôn wrth archebu er mwyn i ni allu cysylltu â chi os yw’r digwyddiad wedi’i ganslo oherwydd tywydd gwael.
  • CYFARPAR – Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar sydd ei angen, ond mae angen gwisgo esgidiau a dillad call rhag ofn y bydd y tywydd yn wael, ac eli haul os yw hi’n heulog!
  • CWRDD – Ar y traeth o flaen yr Orsaf Gwylwyr y Glannau (i’r chwith o’r llithrfa lawr i’r traeth). Byddwn yn gwisgo siacedi oren llachar.
  • CINIO – Os ydych yn dod ar gyfer gweithgareddau’r prynhawn a’r glanhau mae’n syniad dod â phecyn bwyd.
  • PARCIO – Y gost am barcio car yn y maes parcio am ddiwrnod yw tua £6 felly dewch â newid.
  • Does dim rhaid archebu ar gyfer y digwyddiad glanhau’r traeth.
  • Mae llawer mwy o wybodaeth ynghylch Beachwatch ar wefan y Gymdeithas Cadwraeth Forol: www.mcsuk.org

Nid yw holl hwyluswyr y digwyddiad hwn yn siarad Cymraeg yn rhugl. Chwiliwch am y symbol  os am gymorth gan ein siaradwyr Cymraeg a’n dysgwyr. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, rhowch gynnig arni!

Digwyddiadau