Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Byddwn ni'n clywed sgyrsiau gan bobl o bob cwr o Gymru am eu gwaith yn astudio, cofnodi a diogelu byd natur.
Bydd cyfle am sesiwn gwestiwn ac ateb gyda'r siaradwyr ar y diwedd.
TOCYNNAU
Rhaglen
10.05am
Rhywogaethau Anfrodorol ym Mhen Llŷn a’r Sarnau
Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau yn un o’r ardaloedd cadwraeth morol mwyaf yn y DU, yn ymestyn am bron i 230km o arfordir. Bydd Chloe Powell-Jennings o Gyfoeth Naturiol Cymru yn siarad am leihau’r risg o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau anfrodorol ymledol i ddyfroedd Cymru.
10.35am
Parc Bute, ‘calon werdd y ddinas’
Mae gan Barc Bute, ‘calon werdd’ Caerdydd, hanes hir yn dyddio’n ôl i’r 1800au . Malcolm Frazer, cyn dyfwr coed ym Mharc Bute, fydd yn edrych ar yr hanes cyn sôn am y casgliad coed. Mae casgliad dihafal o goed pwysig yn y parc - dros 3,000 sbesimen, yn cynnwys rhywogaethau cynhenid, prin ac addurnol.
11.05am
Y Pry Ffrwythau, y Crynwr, yr Hwyfwr, a'r Adain-hir David Clements sy'n rhoi cyflwyniad byr i'r teuluoedd Diptera Tephritidae, Ulidiidae, Platystomatidae a Pallopteridae yng Nghymru, gan esbonio sut i'w hadnabod, eu bioleg a'u hymddygiad.
11.35am
Egwyl
12pm
Arolygon Rhynglanwol Shoresearch
Dawn Thomas o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru fydd yn sôn am arolygon arfordirol yr Ymddiriedolaeth ar draws y DU. Casgliad o arolygon yw’r rhain sy’n astudio’r pyllau a’r creigiau glan môr gaiff eu datgelu bob dydd ar drai. Bydd data’r project hwn yn helpu arbenigwyr i fonitro bywyd bregus ein moroedd, a deall effaith llygredd, newid hinsawdd a rhywogaethau ymledol.
12.30pm
Ein trysorau cudd - wiwerod coch y canolbarth
Y wiwer goch yw unig wiwer frodorol Cymru. Roedd yn greadur cyffredin ar un adeg, ond bu’r niferoedd yn dirywio am flynyddoedd. Ond mae yna wiwerod coch yn dal i oroesi yn y canolbarth. Bydd Sarah Purdon, Swyddog Wiwerod Coch Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, yn siarad am wiwerod yr ardal - eu hanes, y darlun nawr, a’r dyfodol i wiwerod coch Cymru.
Mwy o wybodaeth
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd