Digwyddiadau

Digwyddiad: Cymru Anhysbys 2022

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
15 Hydref 2022, 10am - 1pm
Pris Talwch beth allwch chi. Awgrymwn rodd o £5.
Addasrwydd 12+

Ymunwch â ni am fore o sgyrsiau am fywyd gwyllt Cymru. 

Byddwn ni'n clywed sgyrsiau gan bobl o bob cwr o Gymru am eu gwaith yn astudio, cofnodi a diogelu byd natur. 

Bydd cyfle am sesiwn gwestiwn ac ateb gyda'r siaradwyr ar y diwedd. 

TOCYNNAU

Rhaglen

10.05am

Rhywogaethau Anfrodorol ym Mhen Llŷn a’r Sarnau

Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau yn un o’r ardaloedd cadwraeth morol mwyaf yn y DU, yn ymestyn am bron i 230km o arfordir. Bydd Chloe Powell-Jennings o Gyfoeth Naturiol Cymru yn siarad am leihau’r risg o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau anfrodorol ymledol i ddyfroedd Cymru.

10.35am

Parc Bute, ‘calon werdd y ddinas’

Mae gan Barc Bute, ‘calon werdd’ Caerdydd, hanes hir yn dyddio’n ôl i’r 1800au . Malcolm Frazer, cyn dyfwr coed ym Mharc Bute, fydd yn edrych ar yr hanes cyn sôn am y casgliad coed. Mae casgliad dihafal o goed pwysig yn y parc - dros 3,000 sbesimen, yn cynnwys rhywogaethau cynhenid, prin ac addurnol.

11.05am

Y Pry Ffrwythau, y Crynwr, yr Hwyfwr, a'r Adain-hir 
David Clements sy'n rhoi cyflwyniad byr i'r teuluoedd Diptera Tephritidae, Ulidiidae, Platystomatidae a Pallopteridae yng Nghymru, gan esbonio sut i'w hadnabod, eu bioleg a'u hymddygiad.

11.35am

Egwyl

12pm

Arolygon Rhynglanwol Shoresearch 

Dawn Thomas o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru fydd yn sôn am arolygon arfordirol yr Ymddiriedolaeth ar draws y DU. Casgliad o arolygon yw’r rhain sy’n astudio’r pyllau a’r creigiau glan môr gaiff eu datgelu bob dydd ar drai. Bydd data’r project hwn yn helpu arbenigwyr i fonitro bywyd bregus ein moroedd, a deall effaith llygredd, newid hinsawdd a rhywogaethau ymledol.

12.30pm

Ein trysorau cudd - wiwerod coch y canolbarth

Y wiwer goch yw unig wiwer frodorol Cymru. Roedd yn greadur cyffredin ar un adeg, ond bu’r niferoedd yn dirywio am flynyddoedd. Ond mae yna wiwerod coch yn dal i oroesi yn y canolbarth. Bydd Sarah Purdon, Swyddog Wiwerod Coch Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, yn siarad am wiwerod yr ardal - eu hanes, y darlun nawr, a’r dyfodol i wiwerod coch Cymru.

 

Mwy o wybodaeth

  • Bydd y Cymru Anhysbys yn Theatr Reardon Smith yr Amgueddfa.

  • Bydd mynediad i'r theatr drwy Ddrws y Gogledd sydd a'r Blas y Parc.

  • Bydd y drysau’n agor am 9.30am.

  • Mae hwn yn ddigwyddiad hybrid, felly gallwch wylio'r siaradwyr yn fyw yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, neu gallwch wylio'n rhithiol.

  • Mae’r digwyddiad yn fenter ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

  • Talwch beth allwch chi. Awgrymwn rodd o £5.

  • Ni fydd bwyd a diod ar gael yn y gynhadledd.

  • Bydd y sgwrs yn iaith gyntaf y siaradwr. Darperir cyfieithu ar y pryd.

Digwyddiadau