Digwyddiad: Gŵyl Ffilmiau Watch-Africa: If Objects Could Speak
Ymunwch â ni am gyfle i weld ffilm ddogfen If Objects Could Speak gan Saitabo Kaiyare ac Elena Schilling, sy'n adeiladu ar sgyrsiau am berthyn, hunaniaeth ac ofn yng nghyd-destun trefediaethu. Mae cynhyrchwyr y ffilmiau wedi mynd ar daith i ddysgu am wreiddiau a chefndir y gwrthrychau sydd i'w gweld mewn amgueddfeydd Ewropeaidd – gwrthrychau sydd wedi colli'u hanes.
Byddwn ni'n dangos ffilmiau byr gan artistiaid o Gymru a Cameroon fydd yn rhannu eu syniadau am hunaniaeth, treftadaeth, a'r teimlad o fod yn ddwfn yn ein croen. Bydd cyfle hefyd i weld, dysgu mwy a thrafod nifer o wrthrychau o'r casgliad, wedi'u dewis gan Bronwen Culquhoun.
Byddwn ni'n rhoi llais i straeon coll am y ddau Ryfel Byd wrth ddangos ffilm ddogfen A Place Called Wahala gan Jurgen Ellinghaus. Mae'r ffilm yn codi'r llen ar bennod yn hanes trefedigaethol Erwop yn Affrica does fawr neb yn ei chofio. Mae ynddi olygfeydd o fywyd heddiw a thystiolaeth o dros gan mlynedd yn ôl, pan oedd trefedigaethu Ewrpeaidd ar ei anterth.
I fynychu, cofrestrwch ar y ddolen ganlynol i brynu eich tocyn.
Tocynnau
Darperir lluniaeth a byrbrydau yn ystod yr egwyl
Os oes gennych chi gwestiynau am yr ŵyl, cysylltwch â'r
Cynhyrchydd Creadigol, Rehana.jaffer@watch-africa.co.uk
neu'r sylfaenydd, Fadhili.maghiya@watch-africa.co.uk.