Arddangosfa:Dathlu Mary Anning!
Yn y flwyddyn newydd, bydd model o un o balaenotolegwyr pwysicaf y 19eg ganrif, Mary Anning, yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa. Mae’r model wedi bod yn teithio’r DU, ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw’r unig leoliad yng Nghymru yn ystod y daith.
Casglodd Mary Anning (1799-1847) sbesimenau gafodd eu trafod mewn papurau gwyddonol gan rai o balaeontolegwyr gwrywaidd mwyaf blaenllaw’r cyfnod, ond aeth ei chyfraniad hi yn angof tan yn ddiweddar. Cafodd y model ei greu yn dilyn ymgyrch gan ferch 12 oed i gael cerflun o Mary Anning yn ei thref enedigol, Lyme Regis.
Digwyddiadau o ddiddordeb
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd