Digwyddiadau

Sgwrs: Sgwrs Gyda: Môrwelion

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
17 Mehefin 2023, 14:00
Pris £15 | £12 Gostyngiad
Addasrwydd 16 +*
Delwedd glas o’r môr a’r awyr, gorwel yn y canol

Ymunwch â ni i glywed yr artist Garry Fabian Miller yn siarad â Martin Barnes (Uwch Guradur Ffotograffiaeth, V&A) a Bronwen Colquhoun (Uwch Guradur Ffotograffiaeth, Amgueddfa Cymru) am ei fywyd a'i waith. Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o arddangosfa Môrwelion/The Sea Horizon sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 10 Medi 2023. 

Bydd Môrwelion/The Sea Horizon ar agor i bawb sydd am weld yr arddangosfa cyn y digwyddiad. Bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth gan fyfyrwyr Cyfansoddi Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn yr oriel rhwng 1 a 1:45pm. Cynhyrchwyd y gweithiau newydd hyn mewn ymateb i arddangosfa Môrwelion. 

Yn dilyn y sgwrs byddwn ni'n sgrinio pum ffilm fer wedi'u cynhyrchu ar y cyd rhwng yr artist a Sam Fabian Miller. Mae'r ffilmiau yn wahoddiad i chi ddarganfod dull 'di-gamera' Garry Fabian Miller o arbrofi â golau a thywyllwch, ac yn cydblethu gwaith yr artist a 'sgwennwyr a meddylwyr sydd wedi'i ysbrydoli dros y blynyddoedd, gan gynnwys Alice Oswald, Oliver Coates a Kathleen Francis. 

Tocynnau

Bydd 2023 yn ddathliad o fywyd a gwaith Garry Fabian Miller gydag arddangosfa arolwg, Adore, yn Arnolfini rhwng 18 Chwefror a 28 Mai, ac arddangosfa a chyhoeddi ei gofiant, The Dark Room fel rhan o'i Gymrodoriaeth Anrhydeddus yn Llyfrgell Bodleian, Prifysgol Rhydychen. 

• Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan). 

Bydd 2023 yn ddathliad o fywyd a gwaith Garry Fabian Miller gydag arddangosfa arolwg, Adore, yn Arnolfini rhwng 18 Chwefror a 28 Mai, ac arddangosfa a chyhoeddi ei gofiant, The Dark Room fel rhan o'i Gymrodoriaeth Anrhydeddus yn Llyfrgell Bodleian, Prifysgol Rhydychen. 

Digwyddiad arall o ddiddordeb:

Digwyddiadau