Digwyddiad:Gweithdai Creadigol Môrwelion/The Sea Horizon

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol wedi'u hysbrydoli gan arddangosfa Môrwelion. Datgelwch haenau cudd yn ffotograffau Harry Fabian Miller o Aber Hafren ac arfordir Cymru drwy gyfrwng barddoniaeth a rhyddiaith. Mae pob gweithdy wedi'i arwain gan arbenigwr o grŵp ymchwil Image Works ym Mhrifysgol Caerdydd. 

 

Gweithdy 4: 30 Awst 2023, 12-2pm

Arweinydd: Dr. Sophie Buchaillard, Uwch-Gymrawd, Prifysgol Caerdydd ⁠

Teitl: Teithiau Dychmygol: Siwrnai i Fôrwelion

Ffurf: Gweithdy ysgrifennu

Hyd: 2 awr

Disgrifiad: Ers canrifoedd mae'r môr wedi ysbrydoli morwyr a theithwyr i godi pac a theithio ymhell. Byddwn ni'n defnyddio arddangosfa Môrwelion gan Garry Fabian Miller i drafod teithiau dychmygol tu hwnt i'r gorwel. Bydd y gweithdy yn gyfle i gyfranogwyr arbrofi â ffurfiau rhyddiaith teithio modern (ffaith a ffuglen), gyda'r siwrnai yn drosiad am daith bersonol.

Gwybodaeth

30 Awst 2023, 12:00-14:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd 16+

The Sea Horizon, Rhif 18, 1976-77

© Garry Fabian Miller

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau