Digwyddiad:Beachwatch 2023 – ein pen-blwydd yn 20 oed!
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad glanhau’r traeth blynyddol ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol a helpu i ddathlu ein hugeinfed digwyddiad glanhau’r traeth ar Draeth Ogwr!
1pm - 2.30pm: Glanhau’r traeth
2.30pm - 4pm: Gweithgareddau rhad ac am ddim i ddysgu am gerrig a ffosilau, a dathliad celf ar y traeth!
Dewch draw ar y diwrnod – does dim angen cadw lle eleni.
- CYFARPAR – Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar sydd ei angen, ond mae angen gwisgo esgidiau a dillad call rhag ofn y bydd y tywydd yn wael, ac eli haul os yw hi’n heulog!
- CWRDD – Ar y traeth o flaen yr Orsaf Gwylwyr y Glannau (i’r chwith o’r llithrfa lawr i’r traeth). Byddwn yn gwisgo siacedi oren llachar.
- PARCIO – Y gost am barcio car yn y maes parcio am ddiwrnod yw tua £6 felly dewch â newid.
- Mae llawer mwy o wybodaeth ynghylch Beachwatch ar wefan y Gymdeithas Cadwraeth Forol: www.mcsuk.org
Nid yw holl hwyluswyr y digwyddiad hwn yn siarad Cymraeg yn rhugl. Chwiliwch am y symbol os am gymorth gan ein siaradwyr Cymraeg a’n dysgwyr. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, rhowch gynnig arni!
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.
Orielau yn cau am 3.34pm.
Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc.
Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau 23-26 Rhagfyr a 1 Ionawr.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
- Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safle >Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd