Digwyddiad: Disgo Tawel

Motel Nights mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn cyflwyno…
DIM TARFU - Disgo Tawel
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Digwyddiad i Deuluoedd 6pm – 8pm
Digwyddiad i Oedolion yn unig 9pm – 12am
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth i rai o DJs gorau’r ddinas frwydro am eich teyrngarwch telynegol! Canwch i'ch hoff glasuron parti o dan gromen un o adeiladau mwyaf mawreddog y ddinas.
Tocynnau Digwyddiad Oedolion yn unig
DIGWYDDIAD I'R TEULU
Bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg o 6pm – 8pm
Rydym yn cynghori bod pawb sy'n mynychu’r parti mini yn 5+ ac yng nghwmni oedolyn!
DIGWYDDIAD I OEDOLION YN UNIG
Bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg o 9pm – 12am
Mae hwn yn ddigwyddiad 18+ yn unig
**GWYBODAETH**
Bydd gwesteion yn mwynhau:
Tri DJ yn chwarae amrywiaeth o genres
Profiad disgo tawel unigryw mewn lleoliad eiconig
Bar di-gyswllt a DI-WASTRAFF Motel Nights yn gweini amrywiaeth o ddiodydd.
**BETH YW Disgo Tawel?**
Byddwch yn derbyn set o glustffonau ar fynediad, ond nid ydynt yn rhai cyffredin – mae gan y rhain DAIR sianel! Drwy ddefnyddio’r switsh, byddwch yn cael dewis pwy rydych chi'n gwrando arno wrth i'n DJs fynd â chi ar daith gerddorol rhwng genres! PWY FYDDWCH CHI'N EI DDEWIS?
Mae tocynnau'n gyfyngedig a byddant yn GWERTHU ALLAN yn gyflym, felly bydd angen i chi fod yn gyflym!