Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Archebu Tocyn
Fel rhan o arddangosfa Ail-fframio Picton , ymunwch â ni am brynhawn o sgwrsio gyda Rhwydwaith Arweiniad Ieuenctid y Panel Ymgynghori Is-Sahara (SSAP) a'r artistiaid Gesiye a Laku Neg o Ddarlithfa Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Canolbwynt y drafodaeth fydd gwaith Gesiye, Mae’r Briw yn Borth a Llawn Ysbryd gan Laku Neg, dau osodwaith ymdrwythol a gomisiynwyd fel rhan o arddangosfa Ail-fframio Picton ac sydd bellach yn rhan o gasgliad celf cenedlaethol Cymru.
Caiff y digwyddiad ei gyflwyno gan Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru, a'r cadeirydd fydd un o aelodau Rhwydwaith Arweiniad Ieuenctid yr SSAP.
Bydd yr artistiaid Gesiye a Mary-Anne, aelod o grŵp Laku Neg, yn ymuno â'r sgwrs yn ddigidol o Drinidad.
Mae Ail-fframio Picton yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Rhwydwaith Arweiniad Ieuenctid y Panel Cynghori Is-Sahara. Mae tîm y project wedi bod yn gweithio ers 2020 ar ail-fframio naratif trefedigaethol y portread o’r Is-gadfridog Thomas Picton, llywodraethwr Trinidad rhwng 1798 a 1803.
Un o ganlyniadau allweddol y gwaith ail-fframio oedd comisiynu dau waith newydd gan artistiaid o Drinidad, er mwyn rhoi llais i brofiad bywyd y bobl gafodd eu hepgor wrth adrodd hanes Picton yn wreiddiol.
Artist amlddigyblaethol yw Gesiye sy'n byw ac yn gweithio yn Nhrinidad a Thobago. Mae hi'n creu ffotograffau, ffilmiau, tatŵs, darluniau a pherfformiadau dogfennol i drafod ymgnawdoli a storïaeth fel ffurfiau ar ryddid.
Cwmni dan reolaeth artistiaid yw Laku Neg sy'n hybu cyflwyno gwybodaeth Affrica ar wasgar. Mae'r cwmni'n cael ei gynrychioli gan bedwar artist o dras Trinidadaidd sy'n byw a gweithio yng Nghymru.
Tocynnau am ddim i Aelodau
Ail-Fframio Picton Sgwrs Gyda
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd