Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Anya Paintstil ©The Artist, courtesy of Ed Cross Fine Art/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
© Brenda Chamberlain/Amgueddfa Cymru - Museum Wales/Reuven Jasser
Ai'r hunanbortread oedd yr hunlun cyntaf? Mae arddangosfa newydd gyffrous Amgueddfa Cymru, Drych ar yr Hunlun, yn archwilio ac yn gofyn y cwestiwn hwn, gan edrych ar y ffordd mae artistiaid drwy amser, o Rembrandt a Van Gogh i Bedwyr Williams ac Anya Paintsil, yn gweld ac yn cynrychioli eu hun.
Drwy hanes, mae llawer o artistiaid wedi defnyddio hunanbortreadau fel ffyrdd o archwilio eu hunaniaeth a mynegi eu hun. Paentiodd Van Gogh 35 o hunanbortreadau, ac felly gellir dadlau ei fod yn un o'r wynebau mwyaf cyfarwydd yng nghelf y Gorllewin. Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys Portread o’r Artist (1887) Van Gogh, sydd ar fenthyg o'r Musée d’Orsay ym Mharis.
Yn cadw cwmni i Van Gogh bydd detholiad o artistiaid yng nghasgliad cenedlaethol Cymru, gan gynnwys:
Gyda'i gilydd, maen nhw'n arddangos amrywiaeth eang o wahanol ddulliau artistig o greu hunanbortreadau.
Mae hunanbortreadau a hunluniau yn ddau beth gwahanol, ond maen nhw'n rhannu'r un nod – mae'r ddau yn cael eu defnyddio i ddangos pwy ydych chi fel person. O'r holl ffyrdd amrywiol rydyn ni'n dogfennu ein bywydau, mae hunluniau wedi dod yn ffordd boblogaidd o fynegi ein hunain a'n hunigoliaeth.
Mae'r gweithiau hyn yn dangos y gwahanol ffyrdd y mae artistiaid wedi mynd ati i fynegi eu hun, yn yr un modd ag yr ydyn ni'n cyflwyno ac yn rhannu lluniau o'n hunain heddiw. Sut ydych chi'n gweld eich hun?
Gyda’r tocynnau rhataf yn £1, rydyn ni’n eich annog chi i dalu beth allwch chi. Boed yn £1, £5, £10 neu fwy, byddwch chi’n ein helpu i greu ffyrdd newydd i bobl weld, mwynhau a chael eu hysbrydoli gan y casgliad cenedlaethol. Gwnewch gyfraniad go iawn at y gwaith o adrodd straeon rhyfeddol Cymru drwy dalu beth allwch chi – byddwn ni’n diolch o galon!
Cefnogwch Amgueddfa Cymru a mwynhewch gynigion arbennig a buddion. Darganfyddwch fwy am ddod yn Aelod yma . Cefnogwch Amgueddfa Cymru a mwynhewch gynigion arbennig a buddion.
Mae gweithdai addysg ar thema portreadau ar gael i ysgolion, rhagor o fanylion.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd