Archebu Tocynnau
I ddathlu cyfnod Van Gogh yn Ffrainc, rydyn ni’n cynnig te prynhawn Ffrengig, sy'n cynnwys detholiad o ddanteithion sawrus fel croissants bach wedi’u llenwi â chaws a ham neu Brie a llugaeron, a quiche bacwn, cheddar a winwns wedi carameleiddio. Bydd dewis o dameidiau melys hefyd, fel myffin mafon a siocled gwyn, profiteroles siocled a tarte tatin bach, gyda the neu goffi ffres.
Iechyd da! Ychwanegwch wydraid o Prosecco am £5 y pen.
Mae opsiynau fegan, llysieuol a di-glwten ar gael – nodwch unrhyw anghenion deietegol wrth archebu.
Digwyddiadau eraill o ddiddordeb: