Digwyddiad:Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Drych ar yr Hunlun | 09/01/2025 | 13:00

Dyma gyfle i ymuno â ni ar daith am ddim ar gyfer ymwelwyr dall neu â nam ar eu golwg o gwmpas yr arddangosfa boblogaidd o hunanbortreadau sy’n cynnwys paentiad gan Van Gogh.

Bydd ⁠hunanbortread Van Gogh, Portread o’r Artist (1887), yn dychwelyd i Musée d’Orsay, Paris yn fuan.  Byddwn ni’n defnyddio’r daith hon i ddysgu am sut mae Van Gogh ac artistiaid eraill o Gasgliad Cenedlaethol Cymru wedi defnyddio hunanbortreadau fel ffordd o archwilio eu hunaniaeth a mynegi eu hunain.

Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni. 

Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer. 

Archebu tocyn

 
Streic! 84-85 Strike! | 13/03/2025 | 13:00
Ymunwch â ni ar daith am ddim o gwmpas yr arddangosfa hon ar gyfer ymwelwyr dall neu â nam ar eu golwg. 

Mae Streic y Glowyr 1984 yn rhan bwysig o hanes diweddar Cymru. Rhwng lluniau a phlacardiau protest i straeon personol o frawdoliaeth yn eu brwydr yn erbyn byd oedd yn prysur newid, mae’r arddangosfa bwysig hon yn taflu goleuni ar Streic y Glowyr a’i effaith hynod ar ein gwlad.

Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni. 

Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer. 

Archebu tocyn

Gwybodaeth

9 Ionawr a 13 Mawrth 2025, 13:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Gorfodol

Vincent Van Gogh, Portrait de l'artiste, 1887

Oil on canvas

RMN-Grand Palais / Adrien Didierjean / RMN-GP / Dist. Foto SCALA, Florence

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.

Orielau yn cau am 3.34pm.

Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc. 

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau 23-26 Rhagfyr a 1 Ionawr. 

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
  • Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau