Digwyddiad:Dinomania yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Dyma wahoddiad i bawb sydd â diddordeb mewn deinosoriaid… Ymunwch â Dinomania a Chris y Ceidwad am antur fythgofiadwy yr haf hwn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Byddwch yn barod am ddigwyddiad unigryw a chyffrous!

 

  • Dewch i ymgolli ym myd y creaduriaid cyn-hanesyddol. Bydd Chris y Ceidwad, sy’n arbenigwr ar ddeinosoriaid, yn mynd â chi ar daith addysgol drwy amser. Cewch wrando ar ei ffeithiau diddorol, straeon rhyfeddol, a dod yn arbenigwr ar ddeinosoriaid eich hunain. O’u meintiau a’u hymddygiad i’w difodiant, byddwch chi’n gwybod popeth!
  • Ydych chi’n barod i gyfarfod deinosoriaid symudol Dinomania?! Bachwch ar y cyfle i ddod wyneb yn wyneb â’r creaduriaid hyn yn eu llawn maint. Mae’n bosibl y cewch hefyd gyfarfod ambell i fabi deinosor hefyd. 
  • Cewch edrych ar ffosiliau, atgynhyrchiadau a llawer mwy. O’r T-Rex i’r Triceratops, dewch i ryfeddu ar y dehongliadau byw o’r creaduriaid hynafol hyn. 

Mae hwn yn ddigwyddiad unigryw sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan. Bydd yn brofiad bythgofiadwy. Bachwch eich tocynnau nawr!

TOCYNNAU

Gwybodaeth bwysig:

  • Addasrwydd: Teuluoedd. Canllaw oedran: 3+
  • Pris: £15 Oedolion | £15 Plant. Archebwch docyn ar gyfer bob unigolyn sy’n mynychu. 
  • Mae hwn yn brofiad 90 munud, sydd wedi’i rannu’n ddwy ran. Rhan 1: sioe 45 munud / Rhan 2: slot 45 munud i grwydro’r arddangosfa ac i gwrdd â deinosoriaid Dinomania. 
  • Mae slotiau amser Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael. Os hoffech chi fynychu pan mae cyfieithydd BSL yn bresennol, sicrhewch eich bod yn dewis y slot amser BSL, a cadarnhewch yn eich archeb fod angen cyfieithiad BSL. 
  • Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael. Nid yw’r tocynnau yn ad-daladwy. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sydd gyda thocyn.

Digwyddiadau Perthnasol

Gwybodaeth

27–28 a 30 Gorffennaf–1 Awst 2024, 11:30 - 13:00 [BSL ar gael am y sesiwn yma] / 14:00 - 15:30
Pris £15 Plant | £15 Oedolion
Addasrwydd 3+
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau