Digwyddiad: Datganiad ar yr Organ
![](/media/27276/organ.jpg)
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
![](/media/58865/thumb_1600/Colin-Andrews.jpg)
Ffotograff o Organydd Colin Andrews
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 26 Gorffenaf, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Bydd organydd cyngherddau Colin Andrews yn chwarae rhaglen 30 munud arbennig.
Ganwyd Colin Andrews ym Mryste, ac aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Conservatoire de Musique yn Genefa, y Swistir. Ei brif athrawon oedd Lionel Rogg a Dame Gillian Weir. Fe enillodd Colin Andrews wobrau yng Nghystadleuaeth Organ Ryngwladol Dulyn yn 1980 ac 1982, ac yn 1993 sefydlodd yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain rôl Cyd-ddarlithydd er anrhydedd i’w yrfa berfformio loyw.
Mae Mr Andrews wedi teithio’r byd fel organydd cyngerdd, gan fynd ar sawl taith drwy Ewrop a Rwsia, a pherfformio ym mhob un o neuaddau cyngerdd blaenllaw Asia. Mae hefyd wedi perfformio yn y Royal Festival Hall, Llundain, Coleg y Brenin Caergrawnt, Eglwys Gadeiriol Notre-Dame, Paris, Conservatoire Moscow, Neuadd Ffilharmonig St. Petersburg a Neuadd Gyngerdd Theatr Mariinsky, Cymanfa Urdd Organyddion America a neuaddau, Cadeirlannau ac Eglwysi ar hyd Ewrop, yr UDA, Siberia, De Affrica a De America.
Mae Mr Andrews yn athro a darlithydd brwd, ac wedi bod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Dwyrain Carolina a Phrifysgol Indiana. Mae wedi recordio 14 albwm, mwy na 30 o raglenni i’r BBC, ac mae wedi ymddangos ar deledu a radio yn Japan, Gwlad Belg, Rwsia, Gwlad Pwyl a Seland Newydd.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Tocynnau
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.