Digwyddiadau

Digwyddiad: PARTI PAENTIO: Celf i'r Teulu yn yr Amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
29 Awst 2024 , 3pm - 5pm
Pris £13 y person
Addasrwydd Teuluoedd. Argymhellir 6+ oed

 Ymunwch â ni dros yr haf am barti paentio teuluol heb ei ail!

Ydych chi’n chwilio am brofiad hwyliog ac addysgiadol i’r teulu dros yr haf? Mae gennym ni’r ateb.

Os ydych chi’n mwynhau paentio’n barod neu’n awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd yn ystod y gwyliau ysgol, mae hwn yn ddigwyddiad y gall y teulu cyfan ei fwynhau gyda’i gilydd. 

Dewch i ddatgloi eich doniau creadigol, ac ymunwch â ni i roi eich cyffyrddiad unigryw ar greu paentiad teuluol o gasgliad celf yr Amgueddfa Genedlaethol. 

Mae’r parti paentio unigryw hwn, sy’n cael ei gynnal ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn un na fyddwch am ei fethu. 

Dewch i greu atgofion am oes. Mae croeso i bawb, felly dewch â’r teulu cyfan! (argymhellir 6+ oed).

Pwnc: GLAW - AUVERS GAN VAN GOGH

Oeddech chi’n gwybod bod ganddon ni lun enwog gan Van Gogh sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?

Nid yn unig y cewch gyfle i weld y paentiad yn agos, ond mae hwn yn gyfle prin i ail-greu eich fersiwn eich hunan o baentiad Van Gogh, gan ddefnyddio gwahanol frwshys paent, a dulliau hwyliog o wneud marciau, fel paentio â bysedd a deunyddiau naturiol. 

Yr artist lleol Rachel Rasmussen sy’n cynnal y parti paentio teuluol. Bydd hi’n eich arwain drwy gyfarwyddiadau hawdd, cam wrth gam, wrth baentio gyda chi. 

  TOCYNNAU

  • Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn. 
  • Bydd siop goffi’r Amgueddfa ar agor tan 4.30pm. Ewch i nôl paned ac ymunwch yn yr hwyl. 
  • Mae hwn yn ddigwyddiad teuluol sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu (argymhellir 6+ oed).
  • Ni ellir ad-dalu tocynnau ac mae llefydd yn brin iawn. Bachwch eich tocynnau nawr!
  • Mae’r tocyn yn cynnwys ymweliad unigryw ag Oriel yr Argraffiadwyr (ar ôl i’r oriel gau i’r cyhoedd). Dyma gyfle i weld ac edmygu y paentiad gwreiddiol gan Van Gogh y byddwch yn ei ail-greu. 
  • Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno a’i harwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg. 
Digwyddiadau