Digwyddiadau

Digwyddiad: Datganiad ar yr Organ

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
30 Awst 2024 , 13:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).

Organydd Aaron Shilson

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 30 Awst, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.

Ers Medi 2021 Aaron Shilson yw Cyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae ei ddyletswyddau yn cynnwys cyfeilio i gôr y gadeirlan yn eu rhaglen brysur o wasanaethau, recordiadau a darllediadau, gan gynnwys yr Offeren Ganol Nos gaiff ei darlledu’n fyw ar BBC Radio Wales, ac ymweliad EF y Brenin Siarl III â Llandaf ym Medi 2022. Yn ogystal â chynorthwyo i weinyddu a llywio gwaith arall yr adran gerdd, mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Majestas Consort, côr gwirfoddol y gadeirlan.

Cyn symud i Landaf bu Aaron yn gweithio yn Eglwys Gadeiriol Gatholig y Santes Anne yn Leeds, Eglwys Gadeiriol Manceinion, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac yn fwyaf diweddar yn Eglwys Gadeiriol Ely fel Organydd Cynorthwyol i’r côr merched, lle byddai’n cyfeilio iddyn nhw mewn gwasanaethau, teithiau, recordiadau a darllediadau byw dan gyfarwyddyd Sarah MacDonald. Rhwng 2018 a 2019 roedd hefyd yn Organydd Cynorthwyol Coleg Selwyn, Caergrawnt, gan gyfeilio ar eu recordiadau o weithiau gan Ben Parry ac ymuno â’r côr ar daith drwy ogledd-ddwyrain yr UDA oedd yn cynnwys nifer o wasanaethau a chyngherddau yn Eglwys Sant Thomas, Fifth Avenue, Efrog Newydd, Eglwys Gadeiriol Sant Ioan y Dwyfol, ac Eglwys Gadeiriol Genedlaethol Washington.

Astudiodd Aaron yng Ngholeg Cerdd Leeds (Conservatoire Leeds bellach), ac ar ôl graddio fe symudodd i Fanceinion i barhau â’i addysg yng Ngholeg Cerdd Cenedlaethol y Gogledd. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg cyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth organyddol ddwywaith, gan dderbyn gwobrau Frederick Lunt a Meadowcroft y coleg am ei chwarae. Mae hefyd yn Gymrawd Coleg Brenhinol yr Organyddion.

Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. 

Tocynnau          

Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Digwyddiadau