Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Tocynnau
Ymunwch â ni am fore o sgyrsiau cyhoeddus cyffrous am y diweddaraf ym myd natur Cymru.
Dyma 14eg flwyddyn Cymru Anhysbys, lle bydd siaradwyr o bob cwr o Gymru yn rhannu newyddion am eu prosiectau a’u darganfyddiadau natur diweddaraf.
Cawn glywed gan unigolion brwd sy’n gweithio ar y rheng flaen gydag anifeiliaid, ffosiliau, planhigion a ffyngau, gan gynnig rhywbeth at ddant pawb.
Cewch naill ai ymuno â ni yn narlithfa hardd Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, neu gofrestru i wylio ar-lein.
Dyma’ch cyfle i glywed gan yr arbenigwyr, ac i ofyn eich cwestiynau.
Siaradwyr 2024
Craig y Castell – trysorfa newydd anhygoel o ffosilau hynafol o’r Canolbarth
(Lucy McCobb, Amgueddfa Cymru) Safle ffosilau newydd cyffrous ger Llandrindod, a ddarganfuwyd gan ddau o Gymrodyr Ymchwil er Anrhydedd Amgueddfa Cymru, yw Craig y Castell. Ffosilau anifeiliaid meddal o gorff yw llawer o ffosilau eithriadol y safle, sy’n roi gwybodaeth werthfawr i ni am yr ystod eang o greaduriaid oedd yn byw dan y môr yng Nghymru dros 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
‘Natur am byth!’ Partneriaeth - Adfer Rhywogaethau dan Fygythiad yng Nghymru
(John Clark, Cyfoeth Naturiol Cymru)
Partneriaeth yw ‘Natur am Byth!’ rhwng naw elusen amgylcheddol a Chyfoeth Naturiol Cymru i arbed 67 o rywogaethau rhag diflannu’n llwyr o Gymru ac ailgysylltu pobl â natur. Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a noddwyr eraill, nod y rhaglen hon dros bedair blynedd fydd dod â rhai o’n rhywogaethau mwyaf bregus yn ôl o ymyl y dibyn a hyrwyddo gweithredu cymunedol i fynd i’r afael ag argyfwng byd natur.
Amrywiaeth ffyngau cynefinoedd y tomenni glo
(Emma Williams, Coal Spoil Fungi)
Cipolwg ar ffyngau a ddarganfuwyd yn ne Cymru dros fwy na 10 mlynedd o arolygon di-nawdd, a ysgogwyd gan angerdd i ychwanegu gwerth at rai o’n cynefinoedd mosaig mwyaf unigryw, sydd eto dan fygythiad. Nodir rhai o rywogaethau prinnaf y wlad, gan gynnwys rhai sydd ar restr y ffyngau sydd fwyaf dan fygythiad yn Ewrop, clystyrau sy’n torri’r ‘rheolau’ ysgrifenedig, a darganfyddiadau cyffrous sy’n newydd i Brydain.
Bywyd Morol Cyfriniol a Chyfareddol De Cymru
(Matt Green, Marine Matters /Seasearch)
Gan ddefnyddio delweddau ffilm tanddwr syfrdanol a gwreiddiol, bydd y biolegydd môr a’r ffotograffydd tanddwr Matt Green yn dangos yr amrywiaeth enfawr o fywyd sy’n byw yn nyfnderoedd tywyll ac anghysbell Môr Hafren. Bydd ffocws arbennig ar y gwlithod môr bywiog ac amrywiol a’u hysglyfaeth unigryw a dirgel!
Deng Mlynedd ar Hugain o Ymchwil i Ddyfrgwn ym Mhrydain
(Chloe Farrington, Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd)
Yn 1994, mewn ymateb i ddirywiad yn y boblogaeth, sefydlwyd Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd i fonitro halogion cemegol mewn dyfrgwn. Ers hynny, mae’r prosiect wedi ehangu ac erbyn hyn mae’n gwneud darganfyddiadau mewn sawl maes gan gynnwys geneteg, diet, a chlefydau dyfrgwn a’r modd y maent yn cyfathrebu drwy’r ffroenau.
Mwy o wybodaeth
Dyfrgi Ewrasia (Lutra lutra) (Freddie Montague-Dennis)
Môr-wlithen noethdagellog (Edmundsella pedata) (Matt Green)
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd