Digwyddiad:Ffilm yr ŵyl - 'The Snowman'

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%,  dewch yn aelod heddiw

Dewch i fwynhau profiad Nadoligaidd ym mhrydferthwch Darlithfa Reardon Smith.        
Dewch i ymuno yn hwyl yr ŵyl gyda Siôn Corn a Rwdolff, a mwynhau ffilm i'r teulu cyfan – The Snowman, cyn troi eich llaw at weithgareddau gyda'n dyn eira ni.   

Archebu tocynnau


Amseroedd:        
1.30pm – Saesneg       
3pm – Saesneg  

Mwy o fanylion  

  • Bydd Siôn Corn yn eistedd ar y llwyfan a ddim yn gweld y plant yn unigol. 
  • Bydd y plant yn derbyn eitem fach gan Siôn Corn (rhywbeth i helpu'r ceirw i hedfan!) ond fyddan nhw ddim yn derbyn anrheg wedi'i lapio. 
  • Does dim lluniaeth yn Narlithfa Reardon Smith, felly mae croeso i chi ddod â bwyd a diod eich hunain. Neu beth am ddal i fyny gyda ffrindiau ar ôl y gynhadledd yn siop goffi neu fwyty’r amgueddfa? 
  • Bydd drysau'r theatr yn agor 15 munud cyn i'r ffilm ddechrau.
  • Bydd y digwyddiad yn para tua awr. Mae'r ffilm yn 26 munud o hyd. 
  • Rhaid i blant dan 11 oed fod yng nghwmni oedolyn a chanddo docyn. 
  • Dyma ddigwyddiad lle byddwch chi'n eistedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn i bob person sy'n mynychu. 

Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau. 

  
www.thesnowman.com  
 

Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery.   

Gwybodaeth

7 a 8 Rhagfyr 2024
Pris £6
Addasrwydd 3+
Sold Out

© Snowman Enterprises Ltd

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

8 December 2024

Amseroedd ar gael
Sold Out 
Sold Out 
Sold Out 
Sold Out 

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.

Orielau yn cau am 3.34pm.

Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc. 

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau 23-26 Rhagfyr a 1 Ionawr. 

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
  • Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau