Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 27 Medi, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Stephen Moore yw'r Cyfarwyddwr Cerdd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf lle, ers 2016, mae wedi bod yn goruchwylio holl ddarpariaeth gerddorol adran brysur sy’n cyflawni saith gwasanaeth ar gân yr wythnos. Yn Llandaf, mae'n cyfarwyddo Corau'r Gadeirlan yn y rownd wythnosol o wasanaethau corawl, cyngherddau, darllediadau a theithiau. O dan ei gyfarwyddyd, mae’r côr wedi ymddangos yn fynych mewn darllediadau byw ar deledu a radio, a hynny'n fwyaf nodedig mewn gwasanaeth ym mhresenoldeb EF Brenin Charles III a’r Frenhines Camilla ym mis Medi 2022, a ddarlledwyd yn fyw ledled y byd. Mae Stephen hefyd wedi ymddangos ar y teledu yn rôl arweinydd neu organydd, a hynny'n fwyaf diweddar ar Songs of Praise Ddydd Sul y Pasg 2021 a Dydd Nadolig 2022.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru. |
Gwybodaeth
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
Organydd Stephen Moore
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd