Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Digwyddiadau:
Ydych chi'n barod i ddod yn un o gorachod hud Siôn Corn? Mae'r gweithdy yn addas i bob oed, ac yn gyfle i bawb droi eu hunain yn gorachod gwych! Byddwch chi'n creu het a chlustiau corrach traddodiadol, ffon glychau, ac addurn eira i'w hongian ar y goeden Nadolig.
£6.50 y plentyn i gwblhau'r tair elfen grefft
30 Tachwedd - 1 Rhagfyr | 11am - 2pm
Canllaw oed: 4+
Nifer o docynnau cyfyngedig ar gael
Tocynnau: Crefftau'r corachod
Taith Antur Corachod:
Ewch i chwilio'r Amgueddfa am gliwiau'r corachod. Yna, dewch â'r llyfryn yn ôl i'r Brif Neuadd i hawlio Gwobr Nadoligaidd!
£4 y llwybr
30 Tachwedd - 1 Rhagfyr | 10am - 3pm
Tocynnau: Taith antur corachod
Babis Bach Babies: Annwyl Siôn Corn:
Ymunwch â Babis Bach Babies ar gyfer sesiwn stori ddwyieithog a cherddoriaeth fyw wedi'i seilio ar stori 'Annwyl Santa'.
Helpwch ni i agor anrhegion Nadolig Siôn Corn nes canfod yr anrheg 'perffaith'.
Bydd y sesiwn yn cynnwys, pypedau, canu, offerynnau cerdd, a'r cyfle i chwarae offeryn cenedlaethol Cymru - y delyn.
Beth am greu addurn Nadolig arbennig gyda'ch plantos bach, i'w drysori a'i hongian ar y goeden.
£12.50 ar gyfer un oedolyn ac un plentyn
1 Rhagfyr | 10am - 11am | 11.15am - 12.15pm | 1pm - 2pm | 2.30pm 3.30pm
Canllaw oed: 0 - 5
Wedi gwerthu allan
Dewch i ddarganfod amrywiaeth o stondinau yn gwerthu nwyddau ac addurniadau Nadolig wedi'u gwneud â llaw, bwydydd cartref, a mwy o syniadau unigryw. Cyfle i ganfod anrheg arbennig i anwyliaid (neu'r presant perffaith i'ch hun!).
30 Tachwedd - 1 Rhagfyr | 10am - 4pm
Am ddim
Stondinwyr Dydd Sadwrn:
Paul Hindmarsh Photography
Rachel Hannah Art
Hiraeth Silver Ltd
K&A Crochet Crafts
Georgina Doodles
Drifftio
Piper & Nancy
Elyn Boutique
Anna Elizabeth Candles
Corrina Ann Art
Stondinwyr Dydd Sul:
Creative Nest
Melt N' Puddle
Cwmfarm Charcuterie Products
Wardy's Waves
Snaggle Tooth Crafts
Daisy Chainz Designs
Cwtchy Cottage Crafts
Gone Fused Glass
Cinnamon Gemstones
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd