Arddangosfa Arbennig:Ffoto Cymru: O Flaen dy Lygaid (Miss Jenkins? ⁠ar ôl Richard Wilson) gan Holly Davey

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Comisiynwyd y gwaith newydd hwn gan Holly Davey ar gyfer rhifyn cyntaf Ffoto Cymru: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru, a gyflwynir gan Ffotogallery.⁠

Mewn cymdeithas lle mae menywod sy'n artistiaid a ffotograffwyr yn aml yn cael eu hanwybyddu, mae'r ŵyl yn rhoi llwyfan i ffotograffwyr ac artistiaid ffotograffig benywaidd. Thema'r ŵyl yw Yr Hyn a Welwch yw'r Hyn a Gewch? ac mae'n cwestiynu sut rydyn ni'n gweld, deall a defnyddio delweddau a sut maen nhw'n llunio ein hunaniaethau a'n diwylliant, o archifau hanesyddol i AI a thechnoleg fodern.

Mae Holly Davey wedi ymateb i baentiad Castell Dolbadarn (1760-65) gan Richard Wilson i greu gwaith ffotograffig newydd. Dan y paentiad roedd y portread hwn o Miss Jenkins? ynghudd am dros dri chan mlynedd nes cael ei ddadorchuddio gan driniaeth pelydr-x. Nawr yn Oriel 4 mae hi'n ddathliad o'r disylw; pawb sydd wedi'u hanwybyddu, heb eu gweld a'u clywed yn y casgliadau a thu hwnt. 

Darparwyd mewn partneriaeth â Ffotogallery ar gyfer Ffoto Cymru. Mae Ffoto Cymru yn ŵyl ffotograffiaeth a gynhelir bob dwy flynedd gan Ffotogallery, gyda chefnogaeth hael amrywiol gyllidwyr, partneriaid ac unigolion.

Gwybodaeth

1–31 Hydref 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Castell Dolbadarn gan Richard Wilson

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
  • Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau