Digwyddiad:Te Prynhawn Nadoligaidd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dewch i fwynhau te prynhawn Nadoligaidd gyda ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd eleni.

Pam ddim dod i fwynhau ein Te Prynhawn Nadoligaidd moethus? Mwynhewch ddetholiad tymhorol o frechdanau cartref, danteithion sawrus a chacennau, gyda phaned o de Welsh Brew neu goffi ffres.

Gallwn ni ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion dietegol o gael gwybod 72 awr ymlaen llaw. Anfonwch e-bost at: carlos.pinks@elior.co.uk

 

Iechyd da! Ychwanegwch wydraid pefriog i'ch te prynhawn am £9 y pen.

Gwybodaeth

Cliciwch 'archebu' i weld pa ddyddiadau sydd ar gael
Pris £25.00 y person
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
22 December 2024 12.00 13.45 Gweld Tocynnau

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.

Orielau yn cau am 3.34pm.

Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc. 

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau 23-26 Rhagfyr a 1 Ionawr. 

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
  • Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau