Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 25 Hydref, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.

Astudiodd Robin Baggs yr organ gyda Garth Benson, Peter le Huray a Lionel Rogg (Genefa). Darllenodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt, a chwblhaodd astudiaethau ôl-raddedig yno mewn perfformiad allweddellau, palaeograffeg a beirniadaeth. Yn ogystal â’i waith cyngherddau gartref, mae teithiau datganiadau wedi mynd ag ef i ddeuddeg gwlad yn Ewrop, ac o ganlyniad i'w arbenigedd yng ngherddoriaeth organ Swabia ac Awstria yn y ddeunawfed ganrif, cynhaliodd gyngherddau blynyddol yno am fwy na degawd. Mae hefyd wedi gweithio'n helaeth yn rôl awdur a beirniad i'r Musical Times a chyhoeddiadau eraill, ac ar hyn o bryd mae'n Gyfeilydd i nifer o Gymdeithasau Corawl yn Swydd Gaerloyw a Swydd Rydychen. Yn dilyn 35 mlynedd o fod yn Organydd ac yna'n Gyfarwyddwr Cerdd Ysgol Westonbirt, mae Robin bellach yn rhannu ei amser rhwng addysgu preifat, cyfeilio a gwaith cyngherddau.

Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. 

Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Gwybodaeth

25 Hydref 2024, 13:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).

Organydd Robin Baggs

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau