Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 31 Ionawr, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Mae Robert Court wedi dilyn gyrfa hynod o amrywiol a phrysur, gyrfa sydd wedi rhychwantu 40 mlynedd a mwy ac sydd wedi mynd ag ef ar draws y wlad benbaladr ac i Ewrop ac UDA. Mae wedi cyfeilio gyda llawer o brif gerddorfeydd y wlad hon, ac wedi darlledu’n aml ar deledu a radio. Mae'n canu'r organ, y piano a'r harpsicord – a dweud y gwir, unrhyw beth a chanddo allweddell! Un o'r offerynnau mwy anarferol y mae Robert yn ei ganu yw'r harmoniwm – yn 2013 roedd yn unawdydd ar drac sain y ffilm Y Syrcas, ac yn 2015 canodd yr harmoniwm ar drac sain ffilm S4C, Dan y Wenallt. Yn fwy diweddar, bu Robert yn gweithredu'n rôl ymgynghorydd cerdd ar gyfer gosodiad yr artist o Wlad yr Iâ, Ragnar Kjartansson, sef “Il Cielo yn Una Stanza”, gosodiad a fu’n rhedeg am bum wythnos yn Amgueddfa Cymru, gan gasglu adolygiadau 5 seren yn y wasg genedlaethol. Yn 1978, cydsefydlodd Cardiff Organ Events, cwmni sy’n gyfrifol am drefnu mwy na 30 o ddatganiadau organ bob blwyddyn yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ac sy’n hyrwyddo gwaith adnewyddu offerynnau lleol o bwys hanesyddol, ynghyd â chynghori ar hynny. Rhwng 1998 a 2010, Robert oedd cyfarwyddwr Côr Siambr Cantemus Cymru. Mae addysgu'n rhan bwysig o fywyd cerddorol Robert – am flynyddoedd lawer bu'n Diwtor Organ ac yn Ddarlithydd Cyswllt ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn 2008 fe'i penodwyd yn ddeiliad cyntaf swydd Organydd Prifysgol Caerdydd. Robert yw organydd a chôr-feistr Eglwys St Awstin ym Mhenarth, ac mae'n ddeiliad Gwobr Archesgob Cymru am Wasanaethau i Gerddoriaeth Eglwysig.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
TOCYNNAU
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd