Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru
Ymunwch a ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i dreulio amser gyda Rhian Israel, Ffotograffydd yn yr Amgueddfa. Bydd Rhian yn mynd â ni ar daith i'r Stiwdio Ffotograffau i weld sut fyddwn ni'n 'digideiddio' casgliadau, dangos yr holl offer, a gweld gwaith ehangach yr adran.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
- Diod gynnes a sgwrs
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth yng nghaffi'r Amgueddfa.
Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde’. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.
Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 5 Chwefror 2026 | 13:30 | Gweld Tocynnau |

