Amgueddfa’r Lleuad

Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Y Lleuad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Gwybodaeth

19 Mawrth 2026, 1:30-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Archebu lle Hanfodol

Ymunwch a ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i fwynhau gosodwaith 'Amgueddfa'r Lleuad'. Dysgwch fwy am y Lleuad, yr hanesion a'r chwedlau mae hi wedi'u hysbrydoli, a rhannu eich profiadau eich hun. Yn dilyn hyn, bydd gweithgaredd crefft ysgafn.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft ysgafn
  • Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth yng nghaffi'r Amgueddfa. 

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llawI archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde’. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.

Wedi'i ariannu gan

Community Fund

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau