Arddangosfa:Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw gan John Akomfrah
Beth allen ni ei gyflawni, o ddysgu gwrando’n iawn?
Mae Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw, gwaith yr artist o fri, John Akomfrah yn cyfuno celf gyfoes a gweithredu.
Mae cyfle i chi i fod ymysg cyntaf i brofi Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma’r lleoliad cyntaf ar daith y gwaith o gwmpas y DU, ar ôl cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Biennale Fenis 2024.
Mae’r darn clyweledol yn mynd â ni ar daith o olygfeydd a synau sy’n dwyn i gof adegau a digwyddiadau sydd wedi siapio unigolion a chymdeithas.
Trwy wrando, gwylio a chysylltu â’r darn, cawn ein hannog i wrando fel ffordd o weithredu yn erbyn anghyfiawnderau ddoe a heddiw.
Mae’n waith sydd yn dangos pŵer celf gyfoes i greu newid, ac mae Amgueddfa Cymru, ar y cyd â’r British Council, y Gronfa Gelf, Lisson Gallery a Smoking Dogs Films, yn falch o gyflwyno’r arddangosfa hon yng Nghymru.
John Akomfrah
Ganwyd John Akomfrah ym 1957, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Roedd yn un o sylfaenwyr y Black Audio Film Collective, 1982–1998. Mae ei ddylanwad yn enfawr ar feysydd ffilm arbrofol ac astudiaethau hanes trefedigaethol a hunaniaeth ar sail hil.
Comisiynwyd gan y British Council
Cefnogir gan y Gronfa Gelf
Tocynnau
Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac gallwch archebu tocynnau cyn ymweld. Gwnewch gyfraniad go iawn at ein gwaith o adrodd straeon rhyfeddol Cymru gan roi beth allwch chi – mae eich rhoddion yn ein helpu i sicrhau y gall Amgueddfa Cymru barhau i gynnal arddangosfeydd ysbrydoledig.
Gwybodaeth
Hawlfraint: British Council / Lisson Gallery / Smoking Dogs Films
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd