Digwyddiad:Disgo Tawel

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Motel Nights mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn cyflwyno…

PEIDIWCH AG AFLONYDDU - Disgo Tawel  

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth i rai o DJs gorau’r ddinas frwydro am eich teyrngarwch telynegol! Canwch i'ch hoff glasuron parti o dan gromen un o adeiladau mwyaf mawreddog y ddinas.

Digwyddiad i Deuluoedd 6pm – 8pm 

Digwyddiad i Oedolion yn unig 9pm – 12am

TOCYNNAU: DIGWYDDIAD TEULU

TOCYNNAU: DIGWYDDIAD OEDOLION

Bydd gwesteion yn mwynhau:

  • DJ yn chwarae amrywiaeth o genres
  • Profiad disgo tawel unigryw mewn lleoliad eiconig
  • Bar di-gyswllt a DI-WASTRAFF Motel Nights yn gweini amrywiaeth o ddiodydd.

BETH YW DISGO TAWEL?

Byddwch yn derbyn set o glustffonau ar fynediad, ond nid ydynt yn rhai cyffredin – mae gan y rhain DAIR sianel! Drwy ddefnyddio’r switsh, byddwch yn cael dewis pwy rydych chi'n gwrando arno wrth i'n DJs fynd â chi ar daith gerddorol rhwng genres! PWY FYDDWCH CHI'N EI DDEWIS?

Mae tocynnau'n gyfyngedig a byddant yn GWERTHU ALLAN yn gyflym, felly bydd angen i chi fod yn gyflym!

Gwybodaeth

29 Mawrth 2025, Digwyddiad i'r teulu: 6pm - 8pm | Digwyddiad oedolion yn unig: 9pm - hanner nos
Pris Diwgyddiad i'r teulu: £11.55 - £13.70 | Digwyddiad oedolion yn unig: £20.21 - £22.38
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Eventbrite
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau