Digwyddiad:Dinomania yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Byddwch yn barod am antur anhygoel wrth i Dinomania daranu mewn i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yr haf hwn.
Hwyl cynhanesyddol i'r teulu cyfan. Bydd cyfle i:
- Gwrdd â babis deinosor del - ond gwylich, maen nhw'n gallu brathu!
- Dod wyneb yn wyneb â Spike, y Spinosaurus mawr tal a swnllyd!
- Dysgu ffeithiau syfrdanol am y deinosoriaid. Pa mor gyflym oedd T-Rex yn gallu rhedeg? Sut oedd y Velociraptor yn edrych? Mae'r atebion i gyd gan Dinomania!
- Astudio casgliad ffosilau Dinomania, a dysgu cyfrinachau'r gorffennol pell!
Gywbodaeth Bwysig:
- Addas i: Teuluoedd Canllaw oed: 3+
- Pris: £15 Oedolion | £15 Plant. Archebwch docyn ar gyfer pob person fydd yn dod.
- Mae'r digwyddiad yn para 90 munud, ac mae dwy ran. Rhan 1: Sioe 45 munud / Rhan 2: 45 munud i grwydro'r arddangosfa a chwrdd â deinosoriaid Dinomania.
- Mae sesiynau Iaith Arwyddion Prydain ar gael. Os hoffech chi ddod i'r digwyddiad pan fydd cyfieithydd BSL yno, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis slot amser BSL, a chadarnhau wrth archebu eich bod angen cyfieithydd BSL.
- Nifer cyfyngedig o docynnau. Ni ellir rhoi ad-daliad wedi i'r archeb gael ei gwneud. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn gyda thocyn. Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno a’i arwain yn iaith gyntaf Dinomania, sef Saesneg.
Archebwch eich tocynnau nawr, a pharatoi am antur fythgofiadwy!
Mae'r digwyddiad hwn yn bartneriaeth rhwng Dinomania ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Gwybodaeth
Tocynnau
28 May 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
11:00 | Gweld Tocynnau |
13:30 | Gweld Tocynnau |
29 May 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
11:00 | Gweld Tocynnau |
13:30 | Gweld Tocynnau |
30 May 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
11:00 | Gweld Tocynnau |
13:30 | Gweld Tocynnau |
31 May 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
11:00BSL | Gweld Tocynnau |
13:30 | Gweld Tocynnau |
1 June 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
11:00BSL | Gweld Tocynnau |
13:30 | Gweld Tocynnau |