Digwyddiad:Parti Paentio: Celf i'r Teulu yn yr Amgueddfa
Mae'r cynnig poblogaidd yn ôl!
Ydych chi'n chwilio am brofiad llawn hwyl ac addysgiadol yn y gwanwyn? Dewch i'r Amgueddfa!
Os ydych chi’n mwynhau paentio’n barod, neu am roi cynnig ar rywbeth newydd dros y gwyliau, mae hwn yn ddigwyddiad y gall y teulu cyfan ei fwynhau gyda’i gilydd. Dewch i ddatgloi eich doniau creadigol a rhoi eich cyffyrddiad unigryw chi ar ddehongli paentiad teuluol o gasgliad celf yr Amgueddfa Cymru.
Mae’r parti paentio unigryw yn y Brif Neuadd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn gyfle rhy dda i'w fethu. Dewch i greu atgofion am oes. Mae croeso i bawb, felly dewch â'r teulu cyfan! (argymhelliad oed 6+).
Pwnc: SAN GIORGIO MAGGIORE BY TWILIGHT – CLAUDE MONET
Oeddech chi'n gwybod bod baentiadau'r artist enwog Claude Monet yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?
Bydd cyfle i chi weld y paentiad ei hun, ond hefyd i greu fersiwn eich hun. Arbrofwch gyda brws a phaent, neu fwynhau paentio bysedd, a thechnegau naturiol eraill i greu eich campwaith eich hun.
Yr artist lleol Rachel Rasmussen sy'n cynnal y digwyddiad. Bydd hi'n rhoi cyngor a chyfarwyddiadau wrth baentio gyda chi.
Mae’r digwyddiad yma wedi gwerthu allan. I derbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau parti paentio arall sydd ar y gweill, ymuno â'n rhestr bostio ‘a dewis gweithgareddau teulu’.
Gwybodaeth bwysig:
- Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn.
- Bydd bwyty'r Amgueddfa ar agor tan 4.30pm. Ewch i nôl paned ac ymuno yn yr hwyl.
- Mae hwn yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan ac yn addas i bob oed a gallu (argymhelliad oed 6+).
- Rhaid i bob plentyn fod yng ngofal rhiant neu warcheidwad drwy gydol y digwyddiad. Mae hwn yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan, ac rydyn ni'n awgrymu'n gryf i'r oedolion gymryd rhan hefyd, a mwynhau gyda'ch gilydd.
- Ni ellir ad-dalu tocynnau ac mae llefydd yn brin iawn. Bachwch eich tocynnau nawr!
- Mae’r tocyn yn cynnwys mynediad i’r oriel Argraffiadwyr (ar ôl i'r oriel gau i'r cyhoedd). Bydd hwn yn gyfle i weld gwaith gwreiddiol Monet rydych chi'n ei ddefnyddio fel ysbrydoliaeth.
- Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno a’i arwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg.
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
21 August 2025 | 15:00 | Gweld Tocynnau |