Digwyddiad:Helfa Basg: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni dros y Pasg am antur llawn hwyl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!

Mae ein helfa Basg blynyddol yn berffaith i deuluoedd ac archwilwyr bach fel ei gilydd. Allwch chi ganfod eich ffordd o gwmpas y deinosoriaid, y mamothiaid a’r gwaith celf gwych yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd? Bydd angen i chi ddatrys posau a datgelu cliwiau, cyn cychwyn ar helfa i ddod o hyd i’r wyau Pasg lliwgar sydd wedi’u cuddio o amgylch yr Amgueddfa.   

Sut mae’n gweithio:

  • Casglwch eich taflen helfa wrth y fynedfa
  • Datryswch y cliwiau i ddod o hyd i’r wyau Pasg sydd wedi’u cuddio ar draws yr amgueddfa
  • Mae gan bob wy batrwm unigryw a lliwgar i chi ei gopïo ar eich taflen helfa
  • Cwblhewch yr helfa a mwynhewch eich gwobr felys! *

* Y wobr fydd lolipop siocled. Mae opsiwn di-laeth a fegan ar gael ar gais – nodwch y dewis hwn wrth archebu eich tocynnau

TOCYNNAU 

Gwybodaeth Bwysig

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael bob dydd.

  • Nid yw tocynnau i’r helfa yn ad-daladwy ac ni ellir eu cyfnewid am unrhyw ddyddiad, safle na digwyddiad arall. Bydd yn rhaid i ddeiliaid tocynnau gasglu eu taflen helfa a’r wobr ar y diwrnod maent wedi ei archebu.
  • Sganiwch eich tocyn digidol gydag aelod o staff ar y safle er mwyn casglu eich taflen helfa a’r wobr.
  • Iaith: Mae’r taflenni’n ddwyieithog.
  • Oedran: Addas ar gyfer plant 4+ oed, efallai bydd plant iau eisiau gweithio mewn tîm gydag oedolion.
  • Cost: Mae’r gost yn cynnwys un daflen helfa ac un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person/plentyn.
  • Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. 
  • Cyngor ar alergenau: Mae’r wobr siocled yn cynnwys soia, llaeth buwch a gall gynnwys olion cnau. Mae’r wobr fegan yn siocled sy’n gyfeillgar i alergenau sydd heb laeth, heb glwten, heb soia ac yn addas ar gyfer feganiaid.
     

Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw

 
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
 
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Logos ar gyfer People's Postcode Lottery and Postcode Culture Trust

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

12–21 Ebrill 2025, 10am - 4pm
Pris £4 y daflen
Addasrwydd 4+
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau