Sgwrs:Sgwrs gyda’r Artist: Holly Davey yn sgwrsio gyda Bronwen Colquhoun ac Adam Webster
Ymunwch â ni am sgwrs gyda’r artist Holly Davey, sydd â’i gwaith comisiwn O Flaen dy Lygaid (Miss Jenkins? – ar ôl Richard Wilson), i’w weld yn orielau celf hanesyddol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan Ffotogallery fel rhan o Ffoto Cymru 2024: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru, pan gafodd pedair artist benywaidd eu comisiynu i greu gwaith newydd mewn ymateb i gasgliadau yng Nghymru. Bydd Holly yn sgwrsio gyda Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth, ac Adam Webster, Prif Gadwraethydd Celf a Chadwraeth Ataliol.
Gwybodaeth Bwysig
- Bydd y sgwrs hon yn digwydd yn Oriel 4.
- Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
- Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd