Ffotograff du a gwyn yn dangos sawl person o dras India'r Gorllewin, wedi'u gwisgo'n glyfar mewn siwtiau, tei ac yn gwisgo hetiau mewn ffasiwn o'r 1950au, yn erbyn rheiliau yng Ngorsaf Victoria.

Arddangosfa:Picture Post: Eicon o’r Ugeinfed Ganrif

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Gwybodaeth

24 Mai–9 Tachwedd 2025
Pris Am ddim
Addasrwydd Pawb

Cyn newyddion 24 awr a’r cyfryngau cymdeithasol, sut oedd pobl yn gweld y byd? Yn y 1930au, gweddnewidiodd Picture Post y ffordd roedd Prydain yn deall ei hun. Cipiodd y cylchgrawn ffotograffig arloesol hwn fywyd bob dydd, digwyddiadau mawr ac ymagweddau cymdeithasol newidiol, gan gyrraedd 1.7 miliwn o ddarllenwyr ar ei anterth.

Mae’r arddangosfa hon yn dod â Picture Post yn fyw drwy ffotograffiaeth drawiadol, gan ddatgelu sut y trawsnewidiwyd Prydain o’r 1930au i’r 1950au. O ryfel a gwleidyddiaeth i gyfnodau o newid diwylliannol, dyma gyfle i ddarganfod yr adegau a ddiffiniodd Prydain.

Dewch i brofi grym ffotograffiaeth i hysbysu, herio a chysylltu – fel y gwnaeth Picture Post am genhedlaeth.

Datblygwyd yr arddangosfa hon mewn partneriaeth ag Archif Hulton (Getty Images) a Chanolfan Hanes y Cyfryngau Tom Hopkinson (Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd).  

Mae’r arddangosfa wedi’i chyd-guradu gan Dr Tom Allbeson, Darllenydd yn y Cyfryngau a Hanes Ffotograffig, Prifysgol Caerdydd

Tocynnau

Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac gallwch archebu tocynnau cyn ymweld.  Gwnewch gyfraniad go iawn at ein gwaith o adrodd straeon rhyfeddol Cymru gan roi beth allwch chi – mae eich rhoddion yn ein helpu i sicrhau y gall Amgueddfa Cymru barhau i gynnal arddangosfeydd ysbrydoledig.

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

 Logo Getty Images
  • Ffotograff du a gwyn yn dangos sawl person o dras India'r Gorllewin, wedi'u gwisgo'n glyfar mewn siwtiau, tei ac yn gwisgo hetiau mewn ffasiwn o'r 1950au, yn erbyn rheiliau yng Ngorsaf Victoria.
  • Arddangosfa Picture Post: Eicon o’r Ugeinfed Ganrif

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau