Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Bydd Noson yng Nghwmni Derwydd gyda Kristoffer Hughes yn gyfle prin i gwrdd â Phennaeth Urdd Derwyddon Môn.
Mae Kristoffer yn athro, awdur, arweinydd a siaradwr cyhoeddus uchel ei barch, ac mae wedi ymddangos mewn cynadleddau, gwersylloedd a gwyliau ledled Cymru, Prydain, Ewrop a Gogledd America. Mae wedi cyfrannu at raglenni radio a theledu yn Gymraeg a Saesneg – yn fwyaf diweddar yn ei gyfres Marw Gyda Kris ar S4C.
Yn ogystal â chyhoeddi nifer o lyfrau, creu’r Tarot Celtaidd, a dysgu bydwreigiaeth marwolaeth, bu’n gweithio i Wasanaeth Crwner Ei Fawrhydi. Ef yw’r dyn tu ôl i Maggi Noggi, brenhines drag Gymraeg enwocaf Cymru.
Mae’r Silurian Folklore Society yn cydweithio gydag Amgueddfa Cymru ar y noson arbennig hon, a chynhelir y digwyddiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd